Navigation

Content

Dewch i gerdded

Rhyl Lets Walk

Fyddwch chi’n mwyhau cerdded yn y bryniau, cerdded wrth y môr neu ddim ond cerdded mewn gršp o gwmpas eich strydoedd lleol?

Hoffech chi golli pwysau, gwella eich ffitrwydd, gwella eich iechyd neu gyfarfod â phobl?  Beth bynnag fo’r rheswm ymunwch ag un o’n teithiau!

Mae gennym raglen wythnosol a misol o deithiau byr a hirach ac mae iddyn nhw fanteision sylweddol.

Dewch i Barc Gwledig Loggerheads ar Ddydd Sadwrn yr 17 o Ionawr i ymuno a theithiau cerdded neu ganfod gwybodaeth am grwpiau cerdded lleol. Cliciwch yma an fwy o wybodaeth. 

Pam cerdded?

Manteision cerdded i’ch iechyd …….

  • Gostwng a rheoli pwysedd gwaed;  
  • Cynnal neu golli pwysau;  
  • Gwella lefel eich colesterol; 
  • Lleihau’r risg o afiechyd ar y galon, strôc a’r clefyd siwgr;  
  • Cynyddu más yr esgyrn i oedi neu atal osteoporosis; 
  • Lleihau pwysedd a phryder;  
  • Gwella’r gallu i ganolbwyntio;  
  • Cynyddu hunanhyder;  
  • Ymdopi â thasgau bob dydd;  
  • Rhoi mwy o egni i chi a sicrhau eich bod yn cysgu’n well.

Beth i’w wisgo?

Pâr o esgidiau cyfforddus yw’r unig gyfarpar sydd ei angen pan fyddwch yn dechrau cerdded am y tro cyntaf.  Os bydd eich esgidiau’n dal i fod yn gyfforddus yna does dim angen unrhyw beth arall.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01745 356197

Cyswllt: http://www.lets-walk-cymru.org.uk

 

Ymunwch â'n rhestr i dderbyn newyddion

* angenrheidiol
Fformat Ebost Email Format

Footer

Gwnaed gan Splinter