Navigation

Content

Pwysigrwydd bioamrywiaeth

Mae popeth byw yn dibynnu ar ei gilydd gyda phob rhywogaeth, waeth pa mor fychan, yn chwarae rhan bwysig mewn ecosystemau.  Mae popeth byw, cerrig, priddoedd, dwr ac aer yn rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth i ddarparu amodau sy’n ffafrio bywyd ar y Ddaear. 

Po fwyaf rydym yn niweidio ecosystemau a’r mwyaf o rywogaethau rydym yn eu dileu o we gymhleth bywyd, y mwyaf yw’r perygl y bydd gwasanaethau ecosystemau hanfodol rydym yn dibynnu arnynt yn cael eu niweidio.  Mae ecosystemau amrywiol yn gallu gweithredu'r prosesau pwysig hyn yn well, megis rheoli'n atmosffer, cylchdroi dwr a maetholion, ffurfio pridd a thorri i lawr lygryddion.  Bydd y rhain hefyd yn gallu addasu’n well wrth ymateb i ddigwyddiadau heb eu rhagweld megis newid hinsawdd.  Rydym felly’n dibynnu ar fioamrywiaeth i oroesi.  Nid yn unig hynny, ond mae’n heconomi a’n ffordd o fyw yn dibynnu arno.  Mae bioamrywiaeth yn ffynhonnell o amrywiaeth enfawr o gynnyrch megis meddyginiaethau, bwyd, coed, defnyddiau, llifynnau, olew, rwber ac yn y blaen.  Gallai’n hawdd fod rhagor heb eu darganfod.  Ym 1997, amcangyfrifodd astudiaeth gan Sefydliad Technoleg Massachusetts fod gwerth y gwasanaethau hyn a’r cynnyrch rydym yn dibynnu arnynt tua $33 triliwn yn flynyddol1.  

Mae bioamrywiaeth yn cyfrannu ymhellach i’n heconomi trwy ddarparu swyddi ac incwm.  Yn 2003 sefydlwyd fod rheoli, defnydd a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol yng Nghymru’n cynnal 117,000 o swyddi cyfatebol llawn amser, tua 12% o'r holl gyflogaeth yn genedlaethol2.  

Mae hefyd yn cyfoethogi’n bywydau.  Mae gwerthoedd cymdeithasol, moesegol a diwylliannol sylfaenol bioamrywiaeth yn cael eu cydnabod mewn crefydd, celf a llenyddiaeth o ddyddiau cynharaf cofnodi hanes.  Mae llawer o bobl yn mwynhau gwylio bywyd gwyllt – hyd yn oed os ar y teledu’n unig – ac yn cael profiad o natur wrth gerdded, beicio a merlota yng nghefn gwlad.  Dengys astudiaethau fod natur yn helpu gwella iechyd corfforol a meddyliol, gan annog hamdden yn yr awyr agored, ymarfer corff ac ymlacio.  Cydnabyddir hefyd gan lawer o bobl fod trin natur fel petai yno er mwyn ein hwylustod ni a’i gam-drin yn gamwedd moesegol ac y dylai bioamrywiaeth gael ei gadw oherwydd ei werth cynhenid ei hunan.

Beicio ym Mryniau Clwyd


1 – Costanza, B. et al (1997) An introduction to Ecological Economics. CRC Press.
2 – Bilsborough & Hill (2003) Valuing our Environment: The Economic Impact of the Environment in Wales. Technical Summary. CCW

Yn Fanwl - Pwysigrwydd Bioamrywiaeth

Yn Fanwl - Pwysigrwydd Bioamrywiaeth

Rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd bioamrywiaeth.

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter