Bioamrywiaeth
Cysylltiadau perthnasol
- Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth
- Cymru Fyw
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd
Digwyddiadau i ddod
Y Diweddaraf ar y Y Diweddaraf ar y Forwennol Fechan
25.06.2013
Y Diweddaraf ar y Forwennol Fechan
02.07.2013
Newyddion Diweddaraf
Ymunwch â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i Ddathlu Bywyd Gwyllt Cymru
07.06.2013
Digwyddiad Monitro Mamaliaid yn dod i Sir Ddinbych: Lansio MaMoNet
22.05.2013
Tudalen Gweplyfr
Cadw bioamrywiaeth
Cyflwynwyd y cysyniad o fioamrywiaeth yn gyntaf yng Nghynhadledd Amgylchedd a Datblygiad y Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Brazil ym 1992 (sy’n cael ei galw fel arfer yn Uwch Gynhadledd y Ddaear Rio).
Roedd cadwraethwyr wedi bod yn gweithio i gadw bywyd gwyllt a chynefinoedd ers degawdau ond dim ond ers yr Uwch Gynhadledd hon y daeth llywodraethau dros y byd i gyd i gydnabod colledion dramatig bioamrywiaeth a gafwyd yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf. O hynny sefydlwyd y Confensiwn Rhyngwladol ar Amrywiaeth Biolegol y mae dros 150 o wledydd y byd, gan gynnwys y DU, wedi’i lofnodi er mwyn atal colled gynyddol a byd eang bioamrywiaeth. Roedd y rhai a’i llofnododd yn sylweddoli mai cyfrifoldeb pob gwlad yw ymateb i golledion bioamrywiaeth o dan eu hawdurdod a chytunwyd i gynhyrchu cynlluniau a rhaglenni gweithredu i gyflawni hyn.
Roedd y DU gyda’r cyntaf i gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth ym 1994. Roedd yn canolbwyntio ar ddarparu gweithrediadau a thargedau wedi’u cytuno ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd o bryder â blaenoriaeth cadwraethol, gan gasglu ynghyd waith presennol dros, ac arbenigedd ar, fioamrywiaeth er mwyn gweithio mewn partneriaeth. Rhan bwysig o Gynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU oedd sefydlu rhwydwaith o Bartneriaethau Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth Lleol i weithredu’n lleol ac i gysylltu â chymunedau, codi ymwybyddiaeth a chefnogi mentrau addysg.
Er mwyn dysgu am Bartneriaeth Bio-amrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru a gweld Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych ewch at adran Cynllun Gweithredu'r wefan hon.