Navigation

Content

Bioamrywiaeth

Cysylltiadau perthnasol

Newyddion Diweddaraf

Mwy o bostau

Mwy o wybodaeth

Mae amrywiol gyfleoedd ar gael i chi chwarae eich rhan gyda gwaith Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, os ydych yn medru ymuno nawr ac yn y man neu bob wythnos. Edrychwch ar y dudalen wirfoddoli i ddysgu mwy, a llwythwch i lawr y rhaglen wirfoddoli ddiweddaraf.

Yn y gymuned

Gwirfoddoli gyda mudiad cadwraeth

Mae llawer o waith cadwraeth yn digwydd ar y lefel leol, a medrwch chwarae rhan trwy wirfoddoli gyda chyrff neu ar brosiectau penodol. Mae llawer o gyfleoedd sy’n addas i bob math o berson. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rhedeg rhaglen i wirfoddolwyr gyda gweithgareddau rheolaidd, yn amrywio o glirio prysgwydd i fonitro madfallod y twyni. Os nad yw hyn yn apelio, mae nifer o gyrff eraill gyda chyfle gwirfoddoli a fyddai’n addas i chi, megis Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, yr RSPB, a Bywyd Gwyllt Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae gwirfoddoli nid yn unig yn helpu ein bywyd gwyllt, ond hefyd yn ffordd o gael profiad i gael gwaith gyda thâl a chyfarfod pobl gyda’r un syniadau â chi.

Grwpiau cymunedol

Os ydych yn awyddus, efallai y bydd grantiau ar gael i ffurfio grđp cymunedol amgylcheddol i ofalu am eich ardal leol. 

Lledaenwch y gair

Os ydych yn frwdfrydig ynglūn â bywyd gwyllt, peidiwch â’i gadw i chi eich hun! Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu a’u helpu hwythau i weithio dros yr amgylchedd. Os oes pwnc pwysig yn eich ardal leol, medrwch ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu Aelod y Cynulliad. Mae’n bwysig ein bod, gyda’n gilydd, yn cynyddu ymwybyddiaeth ynglūn â bioamrywiaeth.

Gwirfoddolwyr ym Mhen Coed

Footer

Gwnaed gan Splinter