Navigation

Content

Fel busnes

Gweithio’n gynaliadwy

Mae llawer o bethau medrwch eu gwneud i sicrhau bod eich busnes yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Ceisiwch deithio llai a chynnal cyfarfodydd trwy delegynhadledd neu fidiogynhadledd, a rhannwch geir os oes modd. Mae cynyddu effeithlonrwydd adeiladau yn arbed arian yn y tymor hir, yn ogystal â lleihau allyriant CO2,  sy’n cyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd. Ceisiwch leihau gwastraff ac ailgylchwch lle bo modd. Medrwch hefyd weithio gyda’ch cyflenwyr i wella eu perfformiad amgylcheddol hwy.

Mae rhai gweithrediadau busnes yn medru cael effaith uniongyrchol ar iechyd yr amgylchedd. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a’ch cyfrifoldebau chi i warchod yr amgylchedd. Mae gwefan NetRegs yn rhoi arweiniad clir ar reoliadau amgylcheddol i fusnesau. 

Os oes gan eich eiddo busnes unrhyw le yn yr awyr agored, medrwch blannu rhywogaethau cynhenid i wneud yr ardal yn fwy deniadol i fywyd gwyllt.

Nawdd corfforaethol

Mae cyrff cadwraeth a phrosiectau penodol o hyd yn chwilio am gyllid. Mae nawdd corfforaethol yn faes ariannu sy’n cynyddu. Mae’n rhoi cyfle i fusnesau gyfrannu tuag at gadwraeth bywyd gwyllt, yn ogystal â chodi eu proffil hwythau. Gall eich busnes hefyd ddod yn aelod corfforaethol o lawer o fudiadau cadwraeth.

Gwirfoddoli corfforaethol

Ar gyfer eich diwrnod nesaf allan o’r swyddfa fel cwmni, pam nad ewch i wirfoddoli gyda mudiad cadwraeth? Mae’n medru bod yn weithgaredd adeiladu tîm da yn ogystal â bod o fudd i fywyd gwyllt.

Mae’r wefan Business and Biodiversity yn cynnwys llawer o wybodaeth ynglūn â chyfranogiad busnes yn y sector bioamrywiaeth.

Cacynen

Footer

Gwnaed gan Splinter