Navigation

Content

Cerdded

Newyddion Diweddaraf

Mwy o bostau

Mwy o wybodaeth

Mae'r llwybr mewn pum rhan. Byddwch yn ei ddilyn drwy leoedd diarffordd a thirweddau rhyfeddol, mawreddog a heddychlon. Byddwch yn darganfod olion hen chwareli llechi ble bu cenedlaethau o ddynion yn llafurio ar lethrau'r mynydd. Brasgamwch dros y grug ar y grib. Mwynhewch y golygfeydd rhagorol. Cewch flas ar heddwch a llonyddwch mawr yr unigeddau.

Mapiau: OS Explorer 255

Pellter: 24 km/15 milltir (y llwybr i gyd)

Amser: Gadewch ddiwrnod a hanner (y llwybr i gyd)

Graddfa: Y rhan gyntaf yn hawdd, ond y gweddill yn anodd.

 

Llwybr Gogledd y Berwyn

Croeso i Lwybr Gogledd y Berwyn. Dyma lwybr llinellol sy'n rhedeg am bymtheg milltir dros fynyddoedd gwyllt y Berwyn ar ochr ddeheuol yr Afon Ddyfrdwy. Yn Gyntaf, dewiswch eich man cychwyn. Os rydych am gerdded y llwybr ar ei hyd am 15 milltir, yna dechreuwch naill ai yng Nghorwen neu yn Llangollen, mae'r ddwy dref ar briffordd yr A5 (Caergybi-Llundain), nid nepell o ffin Lloegr.

O dref Corwen mae'r arweiniad hwn yn cychwyn ond gallwch gerdded Llwybr Gogledd y Berwyn o'r naill gyfeiriad neu'r llall. Os dewiswch fynd o Langollen i Gorwen, cerddwch rannau'r llwybr o chwith. Os oes well gennych daith gerdded fyrrach, yna dewiswch ran neu ddwy yn ôl eich anghenion. Gallwch deithio i'r dechrau ar y trên stem neu gallwch ddod yn ôl ar y trên ar ôl cyrraedd pen y daith. Gallwch greu taith gylchol sy'n cyfuno Llwybrau Gogledd y Berwyn a Llwybr Dyffryn Dyfrdwy gan ddefnyddio'r llwybrau cysylltiol sydd yng Ngharrog ac yng Nglyndyfrdwy. 

Footer

Gwnaed gan Splinter