Navigation

Content

Taith Brenig - Geoamrywiaeth

 

Geoamrywiaeth Taith Brenig, Sir Ddinbych

Dr Jacqui Malpas, Swyddog Geoamrywiaeth, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau

Clwyd

Mae Taith Brenig yn rhedeg trwy dirlun ysblennydd sydd wedi'i ffurfio gan ddaeareg a geomorffoleg, y geoamrywiaeth.  Mae geoamrywiaeth yn cysylltu creigiau, mwynau, ffosilau (daeareg) a phridd gyda’r tirlun (geomorffoleg), treftadaeth a diwylliant yr ardal. 

Dechreuodd hanes geoamrywiaeth Taith Brenig tua 490 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’n hanes miliynau o flynyddoedd o symudiadau’r Ddaear wrth i blatiau tectonig wrthdaro â’i gilydd gan achosi llosgfynyddoedd, daeargrynfeydd, a phlygu a hollti creigiau.  Mae’n hanes mynyddoedd yn cael eu hadeiladu a’u dinistrio, moroedd dwfn yn heigiog â bywyd yn ffurfio ac yn diflannu, yr Oes Iâ ddiwethaf yn cerfio’r tir lle ceir llifogydd, tirlithriadau, ac erydu heddiw.

Wales GeologyDyffryn Dyfrdwy sydd amlycaf ar ddechrau’r daith.  Roedd yr afon hynafol yn rhedeg cyn yr Oes Iâ ddiwethaf a chredir ei bod tua 3 miliwn o flynyddoedd oed.  Wrth i Gymru gael ei phlymio i Oes yr Iâ ddiwethaf tua 73,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd rhew o Eryri a Mynyddoedd Arenig yn llifo i lawr y dyffryn i’r Bala, ar hyd Dyffryn Dyfrdwy ac ymlaen i Swydd Gaer.  Ffurfiodd y rhew yma rewlifoedd a thalenni o rew a oedd yn gorchuddio’r tirlun gan ei gerfio a’i ffurfio. Roedd y rhew hyd at gilometr o drwch.crinoid

Ffurfiwyd y clogwyni y tu ôl i Gorwen pan oedd Cymru’n gorwedd yn ddwfn yn hemisffer y de tua 425 miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Môr dwfn o’r enw Cafn Dinbych oedd y rhan yma o Gymru ac yn ddiweddarach cafodd ei lenwi gan raean, tywod ac yn achlysurol ffosilau bach iawn o greaduriaid y môr a elwir yn crinoidau.  Gelwir y graig hon yn Graeanau Dinbych a hi hefyd yw craig Caer Drewyn ar ochr gogleddol y dyffryn.  Roedd pobl yr Oes Haearn yn defnyddio'r graig hon i adeiladau rhagfuriau hynod y caerau.   denbigh grits

Mae Afon Dyfrdwy’n dolennu trwy’r dyddodion rhewlifol, sydd yno ers Oes yr Iâ, a llifwaddod, dyddodion wedi'u cario o uwch i fyny’r afon ac yn cael eu gollwng fel mwd pan fo'r afon y gorlifo, fel mae'n gwneud pob blwyddyn.    Mae effeithiau’r rhew a'r afon yn llifo’n gyflym i’w gweld yn y glannau’n erydu gan amlygu clogfeini mawr crwn a elwir yn ‘meini dyfod’ rhewlifol, yn y lle ‘anghywir’.Dee in flood

Pan oedd y rhewlifoedd yn dadmer, roedd gwaddodion a cherrig yn cael eu cario gan y rhew a’u gadael, yn bennaf fel llenwad rhewlifol, i orchuddio’r tirlun ac mae’r meini dyfod hefyd yn frith ar y tirlun.  Drwy astudio’r math o gerrig sy’n ffurfio meini crwydr a’u holrhain yn ôl i’w tarddiad gellir olrhain tarddiad rhewlifoedd.  Daw meini dyfod y rhan yma o Gymru o Eryri a Mynyddoedd Arenig.

Creigiau o gerrig mwd Silwraidd sy’n dringo i fyny ochrau’r dyffryn.  Cafodd y rhain eu gosod mewn haenau tenau tua 420 o flynyddoedd yn ôl.  Fe’u disgrifir erbyn hyn fel cerrig mwd ‘haenau rhuban’.  Dros filiynau o flynyddoedd, cafodd y cerrig mwd hyn eu gwasgu gan symudiadau enfawr y Ddaear gan ffurfio siâl a llechi.  

Mae’r llwybr yn croesi i Raeanau Dinbych Y Foel, yr un creigiau a’r rhai uwch ben Corwen.  Mae Graeanau Dinbych yn galed ac roedden nhw’n gallu gwrthsefyll y rhew.  Dyna pam maen nhw’n ffurfio’r tir uchel yma.  Mae bryniau’r Foel hefyd â’r un tueddiad â Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cadarnhau fod y rhew wedi llifo o’r de orllewin i’r gogledd ddwyrain.

Mae’r dyffryn o gwmpas Glan-yr-afon yn llawn dyddodion rhewlifol gan gynnwys y bryniau crwn bychain a elwir y drymlinoedd.  I’r gorllewin a’r de orllewin mae sianeli dŵr a ffurfiwyd pan oedd y rhewlif yn dadmer.  Pan ddechreuodd hynny tua 17,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y dŵr a oedd wedi dadmer yn llifo o dan y rhew.  Byddai’r dŵr yn llifo ac yn ffurfio twnnel ac yn erydu dyffryn o dan y rhewlif.  Roedd y gwaddod a oedd yn cael ei gario gan y dŵr wedi dadmer yn cael ei ollwng ymhellach i lawr y dyffryn ac yn gorchuddio’r tirlun.huge erratic

Wrth i chi fynd heibio ffermdy bychan ar ben Nant Rhyd-y-saeson, mae maen dyfod enfawr o’r rhewlif.  Dyma’r fwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.  Roedd hyd yn oed yn fwy gan fod tyllau drilio yn y garreg ble roedd ffrwydron wedi’u gosod i’w ffrwydro.  Pam y cafodd y ffermdy ei adeiladu mor agos at ymaen dyfod?  Mae’n ymddangos yn beth rhyfedd i’w wneud. 

Mae’r llwybr yn rhedeg uwch ben Nant Heulog ac mae’n dilyn y cyswllt rhwng Graeanau Dinbych a Charreg Fwd waelodol Betws o liw gwyrddlwyd golau.  Islaw, mae Afon Alwen a dyffryn Ceirw a’i ochrau hynod serth gan fod ffawt enfawr yn y graigwely.  Gwendidau yn y graigwely yw ffawtiau y mae dŵr yn gallu treiddio trwyddyn nhw.  Mae’r ffawt hwn yn un o gyfres o ffawtiau mawr o’r enw Amlinelliad Bala, sy’n rhedeg o’r arfordir yn Nhywyn yn y gogledd-ddwyrain ac o dan Wastadeddau Caer.  Byddai llifogydd enfawr o ddŵr wedi dadmer wedi manteisio a threiddio drwy’r mannau gwan yn y graig. Maerdy mudstone

Cerrig mwd Maerdy o’r cyfnod hŷn, Ordofigaidd, yw’r creigiau ar y rhan yma o’r llwybr, a gafodd eu gollwng yma tua 445 miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Mae tystiolaeth o fywyd y gorffennol ar ffurf biogymysgu yn y creigiau; dyma lle’r oedd llyngyr bychan iawn yn byw mewn gwaddod mwdlyd heb ocsigen.  Weithiau mae’r graig yn edrych yn frith ond weithiau gellir gweld tyllau bychan iawn.  Mae Ffurfiant Maerdy yn brigo ychydig ger y llwybr ar hyd Craig Arbuthy.

Mae ochrau dyffryn Melin-y-wig wedi'u gorchuddio gan rewglai.  Mae rhewglai’n gallu bod yn ansefydlog iawn ac mae llawer o dirlithriadau wedi bod ar hyd y dyffrynnoedd, yn enwedig ar ôl glaw trwm ..... rydym yng Nghymru!

Mae symudiadau enfawr y Ddaear yn ystod digwyddiadau o adeiladu mynyddoedd tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi gwthio’r graig i fyny, ei phlygu ac achosi ffawtio ar ochrau serth dyffryn Afon Clwyd.  Roedd y mynyddoedd mor uchel ag yw’r Himalayas heddiw ond maen nhw wedi’u dinistrio gan erydu a’r tywydd.  Roedd y prosesau’r un fath a’r rhai sy’n digwydd o gwmpas ymylon y Môr Tawel heddiw.  Mae gweddillion y llosg fynyddoedd yn Eryri.

Mae’r graig yn newid i Fflagiau Nantglyn, craig Silwraidd, iau, wrth fynd i Fforest Clocaenog .  Fel mae’r enw ‘Fflagiau’n’ awgrymu, mae’r graig yma’n torri’n Fflagiau mawr, fflat.  Mae cryn gloddio wedi bod ar Fflagiau Nantglyn ac roedden nhw’n cael eu defnyddio ers talwm i addurno ac ar gyfer byrddau snwcer, cerrig beddau, adeiladu a waliau cerrig sych.

Mae dyffryn Afon Clywedog yn ddyffryn danrewlifol arall gydag ochrau serth lle mae Fflagiau Nantglyn yn ffurfio clogwyni. Mae Afon Clywedog  yn enghraifft glasurol o ddyffryn lle mae cam-weddu.  Mae’r afon yn ymddangos yn llawer rhy fach i faint y dyffryn.  Yn wreiddiol, roedd y dyffryn yn ddyffryn rhewlifol ar ffurf U.  Llifodd y rhew dros y tirlun gan grafu’r graig yn noeth.  Pan doddodd y rhew, llifodd yr afonydd gan ffurfio dyffrynnoedd siâp V.  Mae llawer o’r tirlun yn fryniau a dyffrynnoedd crwn yn cael eu torri gan ddyffrynnoedd a cheunentydd siâp V miniog a’u hafonydd.

Wrth i’r llwybr adael y goedwig a chodi i'r tir uchel mae’r graig yn dal yn Fflagiau Nantglyn Silwraidd.  Cafodd y cerrig eu defnyddio i adeiladu’r cylchoedd a’r carneddau a nodweddion archeolegol eraill sydd i’w weld yma.  Nid yw’n ymddangos mai’r graig Fflagiau Nantglyn waelodol a ddefnyddiwyd ar gyfer y nodweddion hyn, mae’n debyg mai meini dyfod o’r rhewlif ydyn nhw, wedi'u casglu o'r ardal gyfagos. 

Mae Cymru’n dal i gael ei newid gan ddigwyddiadau daearegol drwy erydu, llifogydd, tirlithriadau ac yn achlysurol iawn, daeargrynfeydd ysgafn.  Mae’r tirlun yn newid yn barhaus trwy weithgaredd dynol, gan y tymhorau a chan dreigl amser.

Footer

Gwnaed gan Splinter