Navigation

Content

Cyfeiriannu

Mae cyfeiriannu’n un o’r chwaraeon awyr agored mwyaf heriol, mae’n ymarfer y meddwl a’r corff. Y nod yw mynd o gwmpas y cwrs gynted â phosibl, gan gofnodi'r gwahanol fannau y byddwch yn ymweld â nhw ar hyd y ffordd.

Mae cyflymdra a mordwyo yn sgiliau pwysig i gyfeiriannu’n llwyddiannus. Wrth ddatblygu’ch sgiliau cyfeiriannu, y nod yw ceisio cymryd y llwybr byrraf, ond arafaf yn aml, ar draws gwlad ac felly teithio llai o bellter yn hytrach na chadw at y llwybrau wedi'u mapio.

 

Unwaith y byddwch wedi dewis eich cwrs, fe welwch fod y mannau rheoli yn cael eu rhestru yn y drefn y mae’n rhaid i chi ymweld â nhw. Mae’r man cychwyn yn cael ei ddangos fel triongl ar y map, a’r man gorffen fel dau gylch. Bydd y mannau rheoli yn y cylchoedd wedi'u rhifo, ac mae’r blwch disgrifio ar y ddalen rheoli’n rhestru’r nodweddion y mae’n rhaid eu canfod ym mhob man rheoli.

Mae’r mannau rheoli wedi’u marcio gyda physt derw bychain. Mae marcwyr ar y pyst,  sgwariau wedi’u rhannu’n drionglau coch a gwyn a chodau rheoli yn cael eu dangos oddi tanyn fel sydd yn y llun isod.

Cyreiriannu ym Mhlas Newydd

Cyfeiriannu ym Mhlas Newydd, Llangollen 

 Pam na rowch chi dro ar y cwrs cyfeiriannu ym Mhlas Newydd, Llangollen? Mae’r mapiau a thalenni cwrs ar gael i’w llawr lwytho a’u hargraffu o’r dolenni isod. Does dim angen archebu ac mae’r mapiau’n rhad ac am ddim i’w llawr lwytho. Mae’r gerddi ym Mhlas Newydd ar agor gydol y flwyddyn.

Mae naw cwrs i gyd i’w cwblhau ar diroedd Plas Newydd. Mae’r pedwar cwrs hiraf (Butler, Ponsonby, Regency a Gothic) yn gyrsiau llinell. Mae’r mannau rheoli’n cael eu rhestru yn ôl eu trefn ac mae’r nodweddion i chwilio amdanyn nhw wedi’u rhestru yn y blwch disgrifiadau.

Mae pedwar o’r cyrsiau (Cyflmen, Dairy, Stables ac Y Caban) yn gyrsiau anagram. Byddwch yn casglu llythrennau sengl yn y mannau rheoli i wneud gair.

Mae’r llwybrau o gwmpas Plas Newydd yn cael eu cynnal yn dda ac yn hawdd eu cerdded. Mae llethr eithaf sylweddol mewn mannau i gyrraedd y daith cerdded yn y glyn.

Rydyn ni wedi dylunio dau gwrs lefel uchaf, sy'n hawdd i ddefnyddwyr cadair olwyn, neu rai heb allu symud yn rhy dda, eu cyrraedd. Mae’r cwrs Hygyrch yn gwrs lefel uchaf, o gwmpas blaen y tŷ a'r grȋn bowlio. Mae Y Caban yn gwrs anagram, sy’n defnyddio’r llwybrau islaw Y Caban ond heb fynd i lawr i’r glyn.

 

Gwybodaeth Diogelwch

Mae’r gerddi ym Mhlas Newydd ar agor bob dydd i’r cyhoedd. Mae’n lle poblogaidd i gerdded cŵn. Mae arwyddion o gwmpas y safle yn gofyn i berchnogion cŵn eu cadw ar dennyn. Gwneir pob ymdrech i gadw’r tiroedd yn lân ac yn daclus, fodd bynnag, cofiwch y gallai fod olion baw cŵn oddi ar y prif lwybrau.

Gellir mynd ar rai rhannau o’r tiroedd gyda cherbydau, gwyliwch amdanyn nhw, yn enwedig wrth groesi'r rhodfa.

Cofiwch y gallai’r dŵr fod yn beryglus yn y glyn. Defnyddiwch y pontydd i groesi’r nant bob tro rhag disgyn i’r dŵr.

Dylid goruchwylio plant ifanc yn ystod gweithgareddau. Argymhellir eich bod yn cyfarwyddo â'r nodweddion tir o gwmpas y tiroedd ac yn cytuno ar fannau cyfarfod gyda phlant hŷn, nad oes angen eu goruchwylio.

Mae’r gerddi a lawntiau’n eithaf agored, dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd a chofiwch am eli haul bob amser yn ystod yr haf.

Er bod y stablau ar agor am luniaeth pan fo'r tŷ ar agor, cofiwch ddod â digon o ddiodydd ar gyfer eich teulu neu’ch grŵp.

Footer

Gwnaed gan Splinter