Navigation

Content

Taith Brenig - Gwybodaeth i Ymwelwyr

Yn swatio rhwng Dyffryn Dyfrdwy ac Eryri, mae Ffordd Brennig yn dilyn llwybrau tawel drwy gefn gwlad godidog a dirgel.   Dyma’ch cyfle i ddianc rhag y tyrfaoedd a threiddio’r i gefn gwlad hudolus.  Mae’r llwybr yn troelli drwy olygfeydd hardd a mannau hanesyddol.   Rhowch gyfle i chi’ch hunan i brofi’r ardal arbennig hon.

Cyrraedd yno:

Mae Corwen ar yr A5, rhwng Cerrigydrudion a Llangollen.

Mae Llyn Brennig tua phedair milltir i’r gogledd o Gerrigydrudion.

Cludiant Cyhoeddus 

Mae’r orsaf reilffordd gyhoeddus agosaf yn Rhiwabon ar reilffordd Caer i Amwythig.   Mae bysiau X94 neu rif 5 yn teithio i Gorwen.

 

Mae bysiau Fflecsi yn teithio o Ruthun drwy bentrefi Betws Gwerful Goch, Melin y Wig a Chyffylliog. Bydd yn rhaid gofyn am y rhain drwy ffonio 01978 820820 yn ystod oriau swyddfa a rhoi o leiaf awr o rybudd.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar www.traveline-cymru.info.

Llety

Mae nifer o fannau ar y llwybr yn cynnig llety.    Mae’r manylion ar www.visitwales.co.uk neu www.walkingnorthwales.co.uk neu gallwch ffonio Canolfan Groeso Llangollen ar 01978 860828.

Footer

Gwnaed gan Splinter