Cerdded
Newyddion Diweddaraf
Taith Sgrinio am Oes
01.07.2015
Dewch i Gerdded yn y Flwyddyn Newydd
30.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Milltiroedd Cymunedol
Ond does dim rhaid i bob llwybr fod yn sialens am bellteroedd maith - mae yna nifer o lwybrau byrrach ar draws y sir neu lwybrau byr sy’n cymryd oddeutu awr. Yn aml bydd y rhain yn fforio rhai o fannau mwyaf arbennig Sir Ddinbych neu’n cysylltu cymunedau. Mae cyfres Cerdded Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn trafod y llwybrau cerdded gorau yn y sir mewn un llyfryn gydag ystod o lwybrau i ddewis ohonyn nhw - o’r byr a’r hawdd iawn i’r rhai mwy ymdrechgar. Cadwch lygad hefyd am Ddarganfod Cefn Gwlad Corwen neu Fforio Prestatyn ar gyfer llwybrau byr o gwmpas Safleoedd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych - neu’r gyfres Milltiroedd Cymunedol sy’n llwybrau cymuned yn cysylltu pentrefi a mannau eraill o ddiddordeb.

Llwybr Tyrnog
Taith gerdded gylchol hyfryd 4.3 milltir o amgylch pentref Llandyrnog, sy'n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.

Clywedog Clwyd
Taith gerdded gylchol 4.7 milltir o amgylch pentrefannau atyniadol Llanynys a Rhewl sy'n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.

Pendref Dinbych
Dewis o deithiau gerdded gylchol o amgylch dref canoloesol Dinbych, sy'n cynnwys y dref a'r cefn gwlad cyfagos.

Tremeirchion
Taith gylchol o Dremeirchion sy'n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda phanoramâu eang o Ddyffryn Clwyd.
Llwybr Bryn Heulog
Llwybr syfrandol 4.5 milltir o Langollen sy'n dringo'n ddigon uchel i roi golygfeydd gwych o Ddyffryn Llangollen, yn ogystal â mwynhau heddwch y gamlas.

Graigfechan
A circular walk from the village of Graigfechan, which links to Offa’s Dyke Path National Trail and takes in views of the Vale of Clwyd and beyond.

Llangynhafal a Hendrerwydd
Dewis o gylchdeithiau diddorol, sydd yn cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys wyth ffermdy gwag, ffynnon sanctaidd hudol a’r eglwys trawiadol Sant Cynhafal.

Yr Hen Rheilffordd
Mwynhewch tro hamddenol yn Nyffryn Dyfrdwy, ar hyd yr hen rheilffordd a'r gamlas ger Traphont Ddwr gwefreiddiol Pontcysyllte.

Henllan
Cylchdaith cerdded 4.2 milltir o bentref Henllan.
Yn swatio mewn dyffryn i'r gogledd orllewin o Ddinbych, mae Henllan wedi ei ddynodi yn ardal cadwraeth oherwydd ei ffyrdd cul gyda rhesi o dai yn agor yn syth allan âi'r ffordd.