Navigation

Content

Taith Tegid

Mae Llwybr Tegid yn treiddio drwy flaenau Dyffryn Dyfrdwy o fryniau Cynwyd i’r dyffryn llydan ble mae Afon Dyfrdwy’n llifo o Lyn Tegid. Mae’n cysylltu dau dirlun gwarchodedig – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i’r gogledd a Pharc Cenedlaethol Eryri i’r de. Mae’n cynnig golygfeydd ysblennydd o grib yr Aran sy’n gefndir dramatig i’r llyn yn ogystal ag i’r golygfeydd eang dros Gadwyn y Berwyn ac Eryri. 

Gallwch gerdded Llwybr Tegid i’r ddau gyfeiriad, ond mae’n debyg mai drwy gychwyn y daith o Gynwyd y cewch y golygfeydd gorau, gan fod y llwybr yn disgyn tuag at y llyn.  O Gynwyd, mae’r llwybr yn codi i’w man uchaf gyrion y Berwyn. Mae’n werth gwyro ychydig i weld y cylch cerrig o’r Oes Efydd, sydd yma ers tua 3 - 4,000 o flynyddoedd yn ôl a lle mae golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad o’r mynyddoedd o gwmpas. 

Mae’r llwybr yn 18 milltir o hyd ond mae’n hawdd ei rannu’n darnau llai drwy ddefnyddio’r gwasanaeth bysiau lleol.

Taith Tegid

Taith Tegid

Llwybr 18 milltir yn treiddio i flaenau uchaf Dyffryn Dyfrdwy.

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter