Cerdded
Cysylltiadau perthnasol
Digwyddiadau i ddod
Traphont Dŵr y Waun
19.06.2013
Her Taith Gerdded y Nos
22.06.2013
Newyddion Diweddaraf
Mwy o bostauTudalen Gweplyfr
Dewch i gerdded
Fyddwch chi’n mwyhau cerdded yn y bryniau, cerdded wrth y môr neu ddim ond cerdded mewn gršp o gwmpas eich strydoedd lleol?
Hoffech chi golli pwysau, gwella eich ffitrwydd, gwella eich iechyd neu gyfarfod â phobl? Beth bynnag fo’r rheswm ymunwch ag un o’n teithiau!
Mae gennym raglen wythnosol a misol o deithiau byr a hirach ac mae iddyn nhw fanteision sylweddol.
Pam cerdded?
Manteision cerdded i’ch iechyd …….
- Gostwng a rheoli pwysedd gwaed;
- Cynnal neu golli pwysau;
- Gwella lefel eich colesterol;
- Lleihau’r risg o afiechyd ar y galon, strôc a’r clefyd siwgr;
- Cynyddu más yr esgyrn i oedi neu atal osteoporosis;
- Lleihau pwysedd a phryder;
- Gwella’r gallu i ganolbwyntio;
- Cynyddu hunanhyder;
- Ymdopi â thasgau bob dydd;
- Rhoi mwy o egni i chi a sicrhau eich bod yn cysgu’n well.
Beth i’w wisgo?
Pâr o esgidiau cyfforddus yw’r unig gyfarpar sydd ei angen pan fyddwch yn dechrau cerdded am y tro cyntaf. Os bydd eich esgidiau’n dal i fod yn gyfforddus yna does dim angen unrhyw beth arall.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01745 356197
Cyswllt: http://www.lets-walk-cymru.org.uk