Bioamrywiaeth
Digwyddiadau i ddod
Taith y Troellwr
30.05.2013
Y Diweddaraf ar y
04.06.2013
Newyddion Diweddaraf
Digwyddiad Monitro Mamaliaid yn dod i Sir Ddinbych: Lansio MaMoNet
22.05.2013
Rhoi hwb i fadfall y twyni prin drwy wella eu cynefin
14.05.2013
Tudalen Gweplyfr
Taflenni
O’r dudalen hon, gallwch lwytho i lawr fersiynau electronig o lawer o’n taflenni.
Tylluanod Gwynion
Cewch wybod am dylluanod gwynion a chymryd rhan yn ein prosiect tylluanod gwynion yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
Bioamrywiaeth: Dyletswydd neu Gyfle
Dysgwch ragor am y ddyletswydd i warchod a chryfhau bioamrywiaeth, sy’n cael ei gosod ar awdurdodau lleol gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig.
Bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych
Darllenwch am ychydig o’r bywyd gwyllt arbennig sydd i’w gael yn Sir Ddinbych.
Y Mamal sy’n Dirywio Gyflymaf ym Mhrydain: Llygoden y Dŵr
Lluniwyd y daflen hon yn rhan o’n prosiect ar gyfer llygod y dŵr yn Nyffryn Chwiler ac mae’n rhoi gwybodaeth am lygod y dŵr yn ogystal â chyngor i dirfeddianwyr ar sut i reoli tir mewn modd sy’n gyfeillgar i lygod y dŵr.
Cofnod: Beth sydd yn eich Gardd chi?
Gwasanaeth gwybodaeth amgylcheddol Gogledd Cymru yw Cofnod ac mae’n cadw data biolegol i’n rhanbarth ni. Cewch wybod am gofnodi bywyd gwyllt – gan ddechrau ar garreg eich drws.
Ffromlys yr Himalaya: Rhybudd Rhywogaeth Ymwthiol
Darllenwch am ffromlys yr Himalaya a'r problemau a all ei achosi, a chael gwybod sut i gymryd rhan â rheoli planhigyn ymledol hwn.
Bywd ar yr Ochor
Mae lleiniau ymyl ffordd wedi dod yn fwyfwy pwysig yn hafan i fywyd gwyllt. Cewch wybod beth rydyn ni’n ei wneud yn Sir Ddinbych i ofalu am ein bywyd gwyllt ymyl ffordd.
Arweinlyfr Poced i Blanhigion Pyllau
Rhestr o blanhigion i’w hosgoi a dewisiadau eraill da i’ch pwll chi.