Bioamrywiaeth
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion Diweddaraf
Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu
22.05.2015
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Yn y cartref
Byw’n gynaliadwy
Ceisiwch fyw mewn modd cynaiadwy. Cofiwch y drefn – lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu. Prynwch ond yr hyn rydych ei angen, ailddefnyddiwch bethau pryd bynnag y medrwch ac yn y diwedd, sicrhewch ei fod yn cael ei ailgylchu ar ddiwedd ei oes. Medrwch roddi eitemau nad ydych eu heisiau i siopau elusen, eu rhoi i rywun arall neu eu gwerthu arlein.
Ystyriwch y pethau rydych yn eu prynu i leihau’r effaith ar y blaned, er enghraifft, medrwch brynu cynnyrch lleol i leihau eich ôl troed carbon a sicrhau eich bod yn prynu bwyd gyda deunydd pecynnu ailgylchadwy.
Mae cerdded neu feicio yn hytrach na gyrru pellteroedd byrion yn dda i’ch iechyd ynghyd â’r blaned. Os ydych yn mynd ymhellach, ceisiwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Pam nad ewch ar eich gwyliau yn nes at eich cartref yn hytrach na hedfan dramor?
Cofnodi bywyd gwyllt
Cewch eich synnu, efallai, ynglŷn â chyn lleied rydym yn ei wybod am rai rhywogaethau bywyd gwyllt. Mae cadwraeth bywyd gwyllt yn dibynnu ar ddealltwriaeth gywir o leoliad a niferoedd rhywogaethau. Medrwch helpu i wella ein gwybodaeth ynglŷn â bywyd gwyllt trwy gofnodi’r hyn rydych yn ei weld, boed yn eich gardd neu allan o gwmpas y gymuned. Cofnodwch unrhyw rywogaeth sy’n werthfawr, gan gynnwys rhai cyffredin a rhywogaethau goresgynnol nad ydynt yn rhai cynhenid. Medrwch ddysgu mwy a cyflwyno cofnodion ar wefan Cofnod. Cofnod yw’r Ganolfan Gofnodi Leol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys data biolegol ar gyfer y rhanbarth.
Dewch i gael cymorth i adnabod yr hyn rydych wedi’i weld gyda BBC Wildlife Finder, Dynodwr Adar RSPB, Butterfly Conservation Trust ac iSpot.
Garddio Bywyd Gwyllt
Mae gerddi yn adnawdd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt yn y DU. Os cânt eu rheoli’n briodol, gall gerddi fod yn gynefinoedd gwych i anifeiliaid a phlanhigion a gwneud cyfraniad arwyddocaol i gadwraeth bywyd gwyllt.
Llwythwch i lawr ein Pecyn Gwybodaeth ar Arddio Bywyd Gwyllt ar waelod y dudaleni ddysgu am greu eich gardd bywyd gwyllt eich hun. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth, gan gynnwys beth i’w blannu, sut i gompostio, rheoli pla a darparu cartrefi a bwyd i fywyd gwyllt.