Navigation

Content

Ar y fferm

Tir amaethyddol yw rhyw 72% o’r tir yng Nghymru a Lloegr, ac felly mae’r dull o’i reoli yn cael effaith fawr ar fioamrywiaeth. Mae ffermio wedi siapio ein cefn gwlad dros filoedd o flynyddoedd ac mae llawer o rywogaethau wedi addasu i fyw ar dir fferm. Fodd bynnag, mae amaethyddiaeth ddwys yn yr 20fed ganrif wedi newid cefn glad, gan ei gwneud yn llai addas i rai rhywogaethau. Ond trwy weithio mewn dulliau mwy sensitif, gall ffermwyr gyfrannu tuag at amgylchedd sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.

Mae’r Grðp Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG Cymru) yn gorff sy’n gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i amddiffyn ein cefn gwlad, nawr ac yn y dyfodol. Maent yn rhoi cyngor ar arferion rheoli tir a medrent ymweld â’ch fferm chi i drafod newid sut rydych yn gweithio.

Glastir yw cynllun rheoli tir cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd wedi disodli holl gynlluniau amaethyddol-amgylcheddol blaenorol. Mae Glastir yn talu am gyflwyno nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol gyda’r nod o ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gwella rheolaeth dðr a chynnal a gwella bioamrywiaeth. I ddysgu mwy, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Ehedydd ar lawr

Isod mae cyngor ar gyfer ardaloedd penodol ar y fferm:

Afoynydd a nentydd

Gall rheolaeth wael ar y fferm arwain at niweidio afonydd a nentydd, ond trwy ddilyn arferion gorau, gellir lleihau’r effaith. Dylid ffensio cyrsiau dðr i gyfyngu mynediad gan dda byw – i leihau erydu, cywasgu’r pridd, siltio a gordyfiant alga a achosir gan wastraff anifeiliaid. Bydd ffensys hefyd yn caniatáu i lystyfiant dyfu ar ymyl yr afon, a fydd yn sefydlogi’r torlannau a bod o les i fywyd gwyllt. Gall pridd, maethynnau organig a chemegau anorganig sy’n mynd i’r cwrs dðr achosi problem a dylid rheoli hyn. Dylid lleoli ffynonellau llygredd i ffwrdd o’r cyrsiau dðr. Bydd torlan afon gyda llystyfiant neu stribed glustogi helpu gyda hyn ac amddiffyn ansawdd y dðr.

Os oes gennych broblem gydag erydu dylech yn gyntaf adnabod yr achos a cheisio ei ddileu. Serch hynny, mewn rhai achosion efallai y bydd angen gwaith cynnal i amddiffyn yr afon. Mae opsiynau cynnal meddal megis sbils helyg, malurion a matiau coir yn effeithiol iawn a hefyd yn rhoi cyfle i fywyd gwyllt. Dylid ond ystyried muriau cynnal caled fel yr opsiwn olaf. Dylid cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd am gyngor.

Gadael darnau pren mawrion yn y cwrs dðr ar gyfer bywyd gwyllt. Mae darnau pren mawrion yn cynnwys hen ganghennau, gwreiddiau a boncyffion coed mewn cwrs dðr. Mae’r darnau hyn yn aml yn cael eu tynnu allan oherwydd ofnir llifogydd. Mewn rhai achosion mae’n wir y gall y darnau hyn gyfrannu tuag at lifogydd, ond mewn llawer o achosion gellir ei adael yn y dðr heb unrhyw broblem, ond gan ddarparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt.

Medrwch greu gwâl artiffisial i ddyfrgwn gan ddefnyddio’r arweiniad hwn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sussex.

Pyllau a ffosyddFfos wedi’i ffensio ar gyfer llygod pengrwn y dðr

Gall pyllau a ffosydd fod yn fuddiol iawn i fywyd gwyllt os cânt eu rheoli’n iawn. Mae’n arfer dda ffensio ffosydd a phyllau i rwystro niwed i’r torlannau gan dda byw ac i ganiatáu i lystyfiant ddatblygu. Yn aml mae angen carthu i gynnal a chadw ffosydd, ond dylid gwneud hyn yn raddol dros nifer o flynyddoedd – yn hytrach na charthu’r ffos ar unwaith. Mae llawer o byllau amaethyddol wedi eu llenwi dros amser i gynyddu’r tir sydd ar gael i gynhyrchu bwyd, ac felly gallai gwyrdroi hyn trwy greu pwll newydd fod o fudd i lawer o rywogaethau.

Ymylon a ffiniau caeau

Dylid gadael ymylon caeau yn wyllt i ddarparu cynefin i fywyd gwyllt gerllaw cnydau neu dda byw; fel rheol dim ond ychydig o rywogaethau a geir yn y mannau hyn.

Gall ffiniau caeau ddarparu cynefin wych i fywyd gwyllt, ynghyd â darparu coridorau yn caniatáu symud rhwng gwahanol ardaloedd. Mae gwrychoedd yn wych a gallant gefnogi amrywiol rywogaethau gan gynnwys pryfetach, adar a mamaliaid. Dylech sicrhau bod y gwrychoedd yn cynnwys nifer o rywogaethau gwahanol, a’u rheoli dros amser i gynnal gwrych iach. Bydd adar yn nythu yn y gwrychoedd ac felly ni ddylid eu torri yn y tymor nythu. Mae Hedgelink yn rhoi gwybodaeth a chyngor manwl ar reoli gwrychoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Os oes gennych waliau carreg, maent yn wych i amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebrata. Medrent hefyd ddarparu tyllau i adar nythu ac i ystlumod glwydo.

Adar ac ystlumod

Mesur syml ac effeithiol i helpu bywyd gwyllt ar eich tir yw gosod blychau adar ac ystlumod. Gellir gwneud y rhain yn ôl y manylion sydd ar gael gan Blwch nythu tylluan wen ar goedenyr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod. Os hoffech gael gwybod mwy am Brosiect Tylluan Wen Gogledd-ddwyrain Cymru, llwythwch i lawr ein taflen ar waelod y dudalen neu cysylltwch â ni. Rydym yn awyddus i glywed gan dirfeddianwyr sydd wedi gweld tylluannod ar eu tir ac a fyddai’n barod i ni osod blwch tylluan i’w fonitro fel rhan o’r prosiect.

Gall adeiladau, yn enwedig hen sguboriaid neu adeiladau eraill, ddarparu safleoedd i adar nythu, gan gynnwys gwenoliaid, gwenoliaid y bondo ac adar to.

Taflen Tylluan Wen

Taflen Tylluan Wen

Os hoffech wybod mwy am ein prosiect tylluan wen, neu os hoffech chwarae rhan, llwythwch y daflen hon i lawr. Medrwch ddefnyddio’r ffurflen gyswllt yn y pecyn a’i dychwelyd at:

Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Yr Hen Garcher, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter