Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Bioamrywiaeth Sir Ddinbych
13.08.2013
Mae yna adran newydd sbon ar ein gwefan a gafodd ei lansio'r wythnos hon sy’n cynnwys popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am fioamrywiaeth: sef yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yn y sir. Mae tudalen ‘Bioamrywiaeth Sir Ddinbych’ yn cynnwys gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion a ffwngws diddorol.
Chwilio Chwilod! Ymunwch â’r Prosiect Chwilio Chwilod
02.08.2013
Mae prosiect Chwilio Chwilod yn brosiect cenedlaethol sy’n helpu elusen gadwrol BugLife i ymchwilio i weld sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn cynnwys pryfaid, pryfaid cop, pryfaid genwair, gwlithenni a malwod. Yn wir, mae 96% o’r anifeiliaid sy’n hysbys i ni yn anifeiliaid di-asgwrn-cefn, felly maen nhw’n andros o bwysig i’n planed.
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad – yn dod yn fuan
25.06.2013
Mae sefydliadau a gwirfoddolwyr brwdfrydig ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer yn ymbaratoi ar gyfer Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad sy’n digwydd ar ddydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin.
Ymunwch â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i Ddathlu Bywyd Gwyllt Cymru
07.06.2013
Eleni, mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn argoeli i fod yn well nag erioed yn Sir Ddinbych, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous i oedolion a phlant. Bydd y dathliad blynyddol wythnos o hyd o fywyd gwyllt o amgylch y wlad yn digwydd eleni rhwng 8 ac 16 Mehefin. Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn ystod yr wythnos.