Navigation

Content

Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad – yn dod yn fuan

Dyddiad: 25.06.2013

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Mae sefydliadau a gwirfoddolwyr brwdfrydig ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer yn ymbaratoi ar gyfer Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad sy’n digwydd ar ddydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin.

Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ymosodiad yn dilyn ymlaen o lwyddiant glanhau afon blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy sy’n digwydd ar 20 ac 21 Medi eleni.

Mae’r trefnwyr yn awyddus i gasglu cymaint o wirfoddolwyr ag sy’n bosibl at ei gilydd ar draws y rhanbarth, i’n helpu i gael gwared ar rywogaethau anfrodorol megis canclwm Japan, jac y neidiwr a’r cranc manegog Chineaidd o Afon Dyfrdwy a’i llednentydd. Deuir â’r rhywogaethau estron hyn i’r Deyrnas Unedig naill ai ar ddamwain neu’n fwriadol a gallant achosi problemau mawr i’n bywyd gwyllt brodorol, yn ogystal â chael effeithiau eraill megis gwneud glannau afonydd yn fwy tueddol i gael eu herydu, sy’n gallu arwain at lifogydd.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad yr awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaethau Natur, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Cofnod, Record a Sð Gaer ymhlith y sefydliadau lawer sydd â rhan yn y digwyddiad pwysig hwn.

Yn ystod y digwyddiad deuddydd, bydd yna arddangosfa hefyd gyda stondinau a byrddau gwybodaeth ym Mharc Gwledig Tþ Mawr yng Nghefn Mawr, Wrecsam i egluro mwy am y rhywogaethau anfrodorol hyn a phwysigrwydd cael gwared arnynt.

Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

“Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ymosodiad yn gyfle gwych inni i gyd wneud argraff wirioneddol gadarnhaol ar Afon Dyfrdwy a’n hamgylchedd lleol. Mae a wnelo hyn â gweithredu uniongyrchol, ar y ddwy ochr i’r ffin, felly rydym yn annog pawb i roi eu welingtons am eu traed a dechrau ffustio jac y neidiwr! I gymryd rhan ar un diwrnod neu’r ddau ewch i www.bionetwales.co.uk neu cysylltwch â’ch swyddog bioamrywiaeth lleol.”

Mae gan Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy - Yr Ymosodiad dudalen Facebook hefyd – www.facebook.com/BigDeeDayTheInvasion

Footer

Gwnaed gan Splinter