Navigation

Content

Bioamrywiaeth Sir Ddinbych

Dyddiad: 13.08.2013

Math: Bioamrywiaeth

Mae yna adran newydd sbon ar ein gwefan a gafodd ei lansio'r wythnos hon sy’n cynnwys popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am fioamrywiaeth: sef yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yn y sir. Mae tudalen ‘Bioamrywiaeth Sir Ddinbych’ yn cynnwys gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion a ffwngws diddorol.

Dyfrgi Ewrpeaidd (Bernard Landgraf)Cliciwch yma i weld y dudalen.

Mae yna wybodaeth am 20 rhywogaeth wahanol gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiad, pysgod, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, planhigion a ffwngws. Gallwch ddysgu mwy am gynefin, bwyd, ecoleg a dulliau atgynhyrchu’r rhywogaethau, yn ogystal â’r bygythiadau sydd yn eu hwynebu a’u statws cadwraethol. Gallwch hefyd ddysgu sut i ddod o hyd iddyn nhw a’u hadnabod.   

Gwibiwr brith (Natural England)Mae’r rhywogaethau’n cynnwys y dyfrgi Ewropeaidd, y wiwer goch, y wiber, y fadfall ddðr gribog a briwlys y calchfaen (blodyn y sir). Rhagwelir y bydd mwy o rywogaethau’n cael eu hychwanegu felly rhowch wybod i ni os oes arnoch chi eisiau gweld rhywogaeth benodol ar y rhestr. 

Footer

Gwnaed gan Splinter