Navigation

Content

Ymunwch â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i Ddathlu Bywyd Gwyllt Cymru

Dyddiad: 07.06.2013

Math: Bioamrywiaeth

Eleni, mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn argoeli i fod yn well nag erioed yn Sir Ddinbych, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous i oedolion a phlant. Bydd y dathliad blynyddol wythnos o hyd o fywyd gwyllt o amgylch y wlad yn digwydd eleni rhwng 8 ac 16 Mehefin.  Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn ystod yr wythnos.

Mor-wennol fachGallwch ymuno â wardeiniaid yn y gytref môr-wenoliaid bach yng Ngronant ddydd Mawrth 11 Mehefin i glywed sut y mae adar bach y môr yn dod yn eu blaenau yn eu hunig safle bridio yng Nghymru. Cwrdd am 11am ar y llwyfan gwylio ar y traeth.

Ddydd Mercher 12 Mehefin bydd digwyddiad ‘Chwilio am Chwilod i Ddechreuwyr’ ym Mharc Gwledig Loggerheads ger yr Wyddgrug (1.30-3.30pm) lle byddwch yn defnyddio gwahanol dechnegau i ganfod trychfilod yn y coetir. Ffoniwch 01352 810614 i archebu eich lle. Rhaid i gyfranogwyr fod yn wyth oed o leiaf ond mae’n addas ar gyfer oedolion hefyd.

Ddydd Iau 13 Mehefin o 8.30pm, cynhelir digwyddiad ‘Nightlife @ Nercwys’, sef taith dywysedig drwy’r goedwig i weld bywyd gwyllt y nos fel gwyfynod, ystlumod a thylluanod. Mae angen archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn (ffoniwch 01352 810614).

I gloi Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, bydd Diwrnod Hwyl Bywyd Gwyllt yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Loggerheads ddydd Sul 16 Mehefin. Galwch heibio unrhyw adeg rhwng 11am a 4pm i ymuno â’r gweithgareddau trochi yn yr afon, arolygu mamaliaid a chrefftau plant.

Footer

Gwnaed gan Splinter