Navigation

Content

Chwilio Chwilod! Ymunwch â’r Prosiect Chwilio Chwilod

Dyddiad: 02.08.2013

Math: Bioamrywiaeth

Mae prosiect Chwilio Chwilod yn brosiect cenedlaethol sy’n helpu elusen gadwrol BugLife i ymchwilio i weld sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn.  Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn cynnwys pryfaid, pryfaid cop, pryfaid genwair, gwlithenni a malwod. Yn wir, mae 96% o’r anifeiliaid sy’n hysbys i ni yn anifeiliaid di-asgwrn-cefn, felly maen nhw’n andros o bwysig i’n planed.

Mae pecyn arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n well cynnal yr arolwg rhwng mis Mai a mis Tachwedd pan mae’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn fwyaf amlwg ac effro.   

Mae gwefan OPAL yn cynnwys popeth sydd arnoch chi angen ei wybod er mwyn cynnal yr arolwg a chyflwyno’ch canlyniadau. Gallwch hefyd lawrlwytho rhaglen i’ch ffôn clyfar. Mae OPAL yn fenter yr Amgueddfa Hanes Naturiol sy’n ceisio annog pobl i gymryd rhan mewn prosiectau gwyddoniaeth (e.e. prosiectau cyfri bywyd gwyllt).

Pecyn arolwg Cymraeg: http://biodiversitywales.org.uk/FileHandler.ashx?File=BugsCountSurveyPackCym.pdf

Pecyn arolwg Saesneg: http://www.opalexplorenature.org/bugscount

Footer

Gwnaed gan Splinter