Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Beth yw’r Fforwm Mynediad Lleol?
Ffurfiwyd Fforymau Mynediad Lleol o dan Adran 94 y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Maent yn gyrff statudol sy’n darparu cyngor ar wella mynediad cyhoeddus i dir a dŵr er dibenion hamddena awyr agored a mwynhau’r ardal.
Yn ogystal ag ystyried anghenion rheoli’r tir a gwarchod harddwch naturiol yr ardal, gall y Fforymau roi cyngor ar gysylltiadau rhwng gwell mynediad â’r buddion ehangach cysylltiol. Mae’r rhain yn cynnwys gwell ansawdd bywyd yn gyffredinol megis iechyd a buddion cymdeithasol, yn ogystal â thrafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth, yr economi a hygyrchedd.
Cysylltu â’r Fforwm
Gellir cysylltu â Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych trwy’r ysgrifennydd:
Mr Adrian Walls
Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Cyngor Sir Ddinbych
Caledfryn
Ffordd Smithfield
Dinbych
LL16 3RJ
Ffôn: 01824 706871
Ebost: laf@sirddinbych.gov.uk
Aelodau Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Mae gan Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych 13 aelod; 12 aelod wedi eu hapwyntio ac un cynrychiolydd o’r awdurdod apwyntio.
Cynrychiola’r aelodau sydd wedi eu hapwyntio gydbwysedd o ddiddordebau gan gynnwys tirfeddianwyr neu reolwyr (sydd â thir mynediad neu dir y mae gan y cyhoedd yr hawl i’w groesi); grwpiau defnyddio; a’r rheiny gyda sgiliau neu ddiddordebau sy’n berthnasol yn benodol i Sir Ddinbych, megis coedwigaeth a thwristiaeth.
Mae gan aelodau’r Fforwm dymor o dair blynedd cyn yr ail-apwyntir y fforwm, er gall aelodau wasanaethau am ail dymor. Etholwyd y mwyafrif o aelodau'r tymor hwn ym mis Mehefin 2010.
Cyfarfodydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Mae’n ofynnol i Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych gwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ond gellir eu cau yn ôl disgresiwn y Fforwm. Efallai na fyddai yn bosib codi mater yn bersonol ond gellir gwneud hynny yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Fforwm. Mae pob cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar brosiectau arfaethedig a gweithiau sy’n berthnasol i waith y Fforwm, diweddariadau ar brosiectau presennol, ac ymweliad safle i leoliadau sydd o ddiddordeb i’r Fforwm.
Bydd cofnodion cyfarfodydd diweddar, adroddiadau blynyddol a dyddiadau ac agendâu cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cofnodi yma cyn gynted ag y bo modd. Ni fydd cofnodion ar gael nes eu bod wedi eu cytuno yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.
Mae cofnodion ac agendâu cyfarfodydd hŷn ar gael gan yr ysgrifennydd.
Dogfennau Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych