Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
31.08.2023
17.05.2019
Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect gydweithredol sy’n ymgysylltu gydag unigolion a chymunedau i hyrwyddo’r rôl y mae mynediad at natur yn ei chael ar wella iechyd a lles. Mae Natur er Budd Iechyd yn darparu buddion cadwraeth i’n mannau gwyrdd, safleoedd rhandiroedd newydd, sesiynau celf a chrefft a sesiynau cerdded. Mae’n annog mwy o bobl i fwynhau cefn gwlad ar gyfer lles corfforol a lles meddyliol ac i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Mae’r rhaglen yn croesawu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn cadwraeth a gweithgareddau awyr agored iach ar garreg eu drws.
Rydym eisoes yn gwybod bod treulio amser yn yr awyr agored yn fuddiol, ac mae defnydd mannau agored gwyrdd yn cynyddu, gan amlygu gymaint rydym yn eu gwerthfawrogi ac yn dibynnu arnynt. Mae Natur er Budd Iechyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n helpu i greu arferion gweithgarwch corfforol, gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol, ac er mwyn i bawb barhau i elwa ar yr effaith gadarnhaol y mae mannau gwyrdd yn eu cael ar straen, gorbryder, a’n hysbryd yn gyffredinol.
Gall gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a sefydliadau eraill atgyfeirio defnyddwyr gwasanaeth drwy lwybrau presgripsiynu cymdeithasol. Mae ein ffurflenni atgyfeirio a chofrestru yma
Mae rhywbeth at ddant pawb - dewch i weld drosoch eich hun!
Mae sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen. Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau Facebook, amserlenni, a ffurflenni cofrestru yma neu drwy gysylltu â swyddfa’r Rhyl ar 01824 708313, neu swyddfa Llangollen ar 01824 712774.