Navigation

Content

Gwirfoddoli

Mae yna ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhanyng ngwaith Gwasanaeth Cefn Gwlad SirDdinbych – ac mae arnom angen eich help! O’r Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd ar hydFryniau Clwyd i Hiraethog a Dyffryn Dyfrdwyyn y de – gallwch ymuno’n achlysurol neubob wythnos – chi piau’r dewis.

Bydd tasgau’n amrywio o blannu coed i godiwaliau cerrig sychion, adeiladu llwybrau i greucynefinoedd bywyd gwyllt. Nid oes angenprofiad blaenorol – fe roddir hyfforddiant acmae croeso i chi weithio’n ôl eich cyflymdereich hun.

Gwirfoddolwyr

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â:

Parc Gwledig Loggerheads - 01824 712757

Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl) - 01745 356197

De Sir Ddinbych (Llangollen) - 01978 869618

Cyngor Iechyd a Diogelwch

Fe wnaiff y Gwasanaeth Cefn Gwladddarparu’r holl ddillad diogelwch sy’nangenrheidiol. Cofiwch wisgo esgidiaucryfion efo gafael da arnyn nhw,cymeradwyir esgidiau mawr efo trwynauesgid dur ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.Dewch â dillad rhag glaw efo chi a chiniopecyn. Mae’n rhaid i rai dan 14 oed fod gydarhiant/gwarcheidwad. Yn anffodus ni allwnweithio efo plant sydd o dan 8 oed.

Rhaglen Gwirfoddolwyr Hydref 2019 - Mawrth 2020

Rhaglen Gwirfoddolwyr Hydref 2019 - Mawrth 2020

Rhaglen Gwirfoddolwyr Hydref 2019 - Mawrth 2020

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter