Navigation

Content

Cadw bioamrywiaeth

Cyflwynwyd y cysyniad o fioamrywiaeth yn gyntaf yng Nghynhadledd Amgylchedd a Datblygiad y Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Brazil ym 1992 (sy’n cael ei galw fel arfer yn Uwch Gynhadledd y Ddaear Rio). 

Roedd cadwraethwyr wedi bod yn gweithio i gadw bywyd gwyllt a chynefinoedd ers degawdau ond dim ond ers yr Uwch Gynhadledd hon y daeth llywodraethau dros y byd i gyd i gydnabod  colledion dramatig bioamrywiaeth a gafwyd yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf.  O hynny sefydlwyd y Confensiwn Rhyngwladol ar Amrywiaeth Biolegol y mae dros 150 o wledydd y byd, gan gynnwys y DU, wedi’i lofnodi er mwyn atal colled gynyddol a byd eang bioamrywiaeth.  Roedd y rhai a’i llofnododd yn sylweddoli mai cyfrifoldeb pob gwlad yw ymateb i golledion bioamrywiaeth o dan eu hawdurdod a chytunwyd i gynhyrchu cynlluniau a rhaglenni gweithredu i gyflawni hyn.

Roedd y DU gyda’r cyntaf i gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth ym 1994.  Roedd yn canolbwyntio ar ddarparu gweithrediadau a thargedau wedi’u cytuno ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd o bryder â blaenoriaeth cadwraethol, gan gasglu ynghyd waith presennol dros, ac arbenigedd ar, fioamrywiaeth er mwyn gweithio mewn partneriaeth.  Rhan bwysig o Gynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth y DU oedd sefydlu rhwydwaith o Bartneriaethau Cynllun Gweithredu Bio-amrywiaeth Lleol i weithredu’n lleol ac i gysylltu â chymunedau, codi ymwybyddiaeth a chefnogi mentrau addysg.

Er mwyn dysgu am Bartneriaeth Bio-amrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru a gweld Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych ewch at adran Cynllun Gweithredu'r wefan hon.

Yn Fanwl – Cadw Bioamrywiaeth

Yn Fanwl – Cadw Bioamrywiaeth

Gwybodaeth bellach am ddiogelu bioamrywiaeth.

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter