Navigation

Content

Bioamrywiaeth dan fygythiad

Mae’r DU wedi colli mwy na 100 o rywogaethau’n ystod y 100 mlynedd diwethaf.

Mae rhywogaethau’n marw allan yn un o ffeithiau bywyd.  Ers i’r ffurfiau cyntaf o fywyd ymddangos ar y Ddaear, mae’r cofnodion ffosiliau’n dangos fod rhywogaethau’n esblygu ac yn marw allan.  Mewn amseroedd daearegol gynt, wrth i rywogaethau farw roedd rhai newydd yn esblygu i lenwi’r bylchau roeddynt yn eu gadael.  Fodd bynnag, erbyn hyn, mae hynny’n amhosibl mewn sawl achos oherwydd nid rhywogaethau unigol yn unig sy’n cael eu colli, ond cynefinoedd cyfan ac mae llawer iawn mwy yn marw erbyn hyn nag o’r blaen.

Mae amgylchedd y Ddaear yn newid yn gynt nag erioed o’r blaen, yn bennaf oherwydd effeithiau gweithgareddau dynol. Pan oedd y boblogaeth o bobl yn fychan a’u ffordd o fyw yn syml, roedd ei effaith yn brin. Wrth i boblogaethau dyfu ac i dechnoleg ddatblygu, cynyddodd ein hanghenion dynol a'n gallu i reoli'r amgylchedd naturiol gan arwain at effeithio hyd yn oed yn fwy ar yr amgylchedd. Mae’r effaith wedi bod ar ei thrymaf yn ystod y 200 mlynedd diwethaf, yn enwedig yr 50 diwethaf, gyda cholledion anferth o gynefinoedd a llawer o rywogaethau yn marw allan dros y byd.

Er enghraifft, mae mwy o dir wedi’i droi at amaethyddiaeth ers 1945 nag yn ystod y cyfan o’r 18fed a 19eg ganrif gyda’i gilydd. Amcangyfrifir fod 90% o’r holl bysgod mawr wedi diflannu o gefnforoedd y byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf o ganlyniad i bysgota diwydiannol a bod 20% o gwrel wedi’i golli mewn dim ond 20 mlynedd gydag 20% arall wedi’i niweidio’n ddifrifol. Bydd yn cymryd cannoedd o filoedd o flynyddoedd i adfer yr hyn a gafodd ei ddinistrio mewn dim ond ychydig o ddegawdau.

Daeth Asesiad Ecosystem Mileniwm y Cenhedloedd Unedig, y cyhoeddwyd ei ganlyniadau fis Mawrth 20053, i'r casgliad fod dynion wedi newid y rhan fwyaf o ecosystemau y tu hwnt i bob adnabyddiaeth mewn cyfnod brawychus o fyr a bod y modd y mae cymdeithas yn cael ei hadnoddau wedi achosi newidiadau di droi nôl sy’n israddio’r prosesau naturiol sy’n cynnal bywyd ar y Ddaear. Credir fod 100 - 1,000 gwaith yn fwy o rywogaethau’n marw allan erbyn hyn na’r cyffredin a bod 12 % o'r holl adar, 25% o'r holl famaliaid a 32% o'r holl rywogaethau amffibiaidd ar hyn o bryd o dan fygythiad difancoll.

Bywyd modern yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth. Mae mwy o rywogaethau’n cael eu colli erbyn hyn nag ar unrhyw adeg arall mewn hanes.

Yn Sir Ddinbych mae’r darlun yr un mor llwm, gyda’n hamgylchedd naturiol heddiw yn llawer tlotach a gwacach nag yn adeg ein neiniau a’n teidiau. Mae’r angen i atal colli bioamrywiaeth yr un mor bwysig yma, yn lleol, ag yng nghoedwig law yr Amazon neu ar y riffiau trofannol.

Y prif fygythiadau i fioamrywiaeth yw:

  • Colli a darnio cynefin oherwydd newidiadau mewn ymarferion amaethyddol, pwysau datblygu, torri coed, coedwigaeth fasnachol ac yn y blaen.
  • Gorelwa ar adnoddau naturiol megis gor bysgota
  • Rhywogaethau ymwthiol anfrodorol
  • Twf yn y boblogaeth ddynol
  • Llygredd
  • Newid Hinsawdd

Dad-fforesteiddio eang yn Indonesia er mwyn plannu olew'r balmwydden (Hayden)

Mae cadw bioamrywiaeth nid yn unig yn iawn, ond mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol ein bodolaeth ar y blaned hon. Rydym yn ymwybodol fod bioamrywiaeth yn cael ei golli’n ddychrynllyd o sydyn, yn bennaf oherwydd gweithgareddau dynol ac rydym yn dechrau gwerthfawrogi bwysigrwydd bioamrywiaeth a’i swyddogaeth mewn cynnal y systemau a’r prosesau sy’n cynnal bywyd ar y Ddaear. Fodd bynnag, ni wyddom os ac am ba hyd y gallwn barhau cyn y bydd y rhain cael eu tanseilio a’u colli’n barhaus. Mae cadw bio-amrywiaeth yn dibynnu ar weithrediad lleol, genedlaethol a rhyngwladol.

Yn Fanwl – Y Prif Fygythiadau i Fioamrywiaeth

Yn Fanwl – Y Prif Fygythiadau i Fioamrywiaeth

Gwybodaeth bellach am y bygythiadau i fioamrywiaeth.

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter