Navigation

Content

Bws Brennig yn Ôl

Dyddiad: 26.04.2011

Ddechrau fis Ebrill roedd croeso mawr yn ôl i Wasanaeth Bws Brennig sy’n rhedeg erbyn hyn rhwng Corwen a Dinbych heibio Llyn Brennig. Bydd y gwasanaeth (Rhif 72) yn rhedeg ddwywaith y dydd ar benwythnosau ac mae hynny’n bosibl diolch i arian oddi wrth Gadwyn Clwyd a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Bydd y bws, sy’n cael ei redeg gan Rogers Coaches o Graigfechan, yn mynd â phobl i ardaloedd o’r Cefn Gwlad nad oedd yn bosibl eu cyrraedd o’r blaen ar gludiant cyhoeddus.  Mae’n gyfle ffantastig i gerddwyr a theuluoedd allu mwynhau’r cefn gwlad.  

I lawr lwytho copi o amserlen y bws ewch i Taith Brenig – Gwybodaeth i Ymwelwyr

Footer

Gwnaed gan Splinter