Bioamrywiaeth
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion Diweddaraf
Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu
22.05.2015
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Safleoedd a amddiffynnir
Fel dull o ddiogelu ac amddiffyn bioamrywiaeth, mae safleoedd y tybir eu bod yn bwysig yn rhyngwladol, yn genedlaethol a/neu’n lleol am eu cynefinoedd a’u rhywogaethau wedi eu dynodi dan warchodaeth amrywiol ddeddfwriaeth bywyd gwyllt.
Mae’r ddogfen ‘Yn Fanwl – Safleoedd a Amddiffynnir’ yn cynnwys crynodeb o wahanol fathau o safleoedd a amddiffynnir a goblygiadau’r dynodiad. Mae gwybodaeth bellach ar y safleoedd hyn a rhestr lawn o safleoedd y DU ar gael ar wefan JNCC. Mae mapiau a dogfennau pellach ar y rhai sydd yng Nghymru i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Isod, medrwch lwytho mapiau Sir Ddinbych i lawr yn dangos ein safleoedd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol pwysig.