Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Dewch i Gerdded yn y Flwyddyn Newydd
30.12.2014
Ymunwch â ni i gerdded yn y flwyddyn newydd ym Mharc Gwledig Loggerheads.
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rhan o brosiect cadwraeth bywyd gwyllt newydd a chyffrous yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Bydd Prosiect Tirluniau Byw Alun a Chwiler yn gwella cynefinoedd ac o fudd i rywogaethau sy’n byw yn ardaloedd Afon Alun (Alyn) ac Afon Chwiler (Wheeler). Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Brwydro’r Ffromlys Chwarennog
12.11.2014
Dechreuwyd Frwydro’r Ffromlys Chwarennog yn Sir Ddinbych yng Nghorwen ddechrau Gorffennaf, gydag ymweliad gan y BBC. Roedd y criw yno’n ffilmio ar gyfer "Escape to the Country" ac yn ymuno â staff Cefn Gwlad a'r AHNE cafwyd gwirfoddolwyr, ein Hyrwyddwr Bioamrywiaeth y Cyng Huw Jones, Artistiaid Preswyl Corwen - Camp Little Hope a'r Cydlynydd Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol, Meryl Norris o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar ôl sawl awr yn gweithio'n galed, fe gliriwyd llawer ac roeddem yn gallu gweld yr afon unwaith eto. Ar ôl barbiciw yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn ac ychydig mwy o waith, rhoddwyd yr offer i lawr ac fe gurwyd cefnau.
Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
17.09.2014
GWAHODDIAD I FYNEGI DIDDORDEB MEWN BOD YN AELOD O’R FFORWM Mae Cyngor Sir Ddinbych yn y broses o ailbenodi Fforwm Mynediad Lleol statudol, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r Fforwm yn gyfrifol am gynghori'r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn y sir er mwyn diben hamddena yn yr awyr agored ac i fwynhau'r ardal.