Navigation

Content

Brwydro’r Ffromlys Chwarennog

Dyddiad: 12.11.2014

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Dechreuwyd Frwydro’r Ffromlys Chwarennog yn Sir Ddinbych yng Nghorwen ddechrau Gorffennaf, gydag ymweliad gan y BBC. Roedd y criw yno’n ffilmio ar gyfer "Escape to the Country" ac yn ymuno â staff Cefn Gwlad a'r AHNE cafwyd gwirfoddolwyr, ein Hyrwyddwr Bioamrywiaeth y Cyng Huw Jones, Artistiaid Preswyl Corwen - Camp Little Hope a'r Cydlynydd Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol, Meryl Norris o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar ôl sawl awr yn gweithio'n galed, fe gliriwyd llawer ac roeddem yn gallu gweld yr afon unwaith eto. Ar ôl barbiciw yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn ac ychydig mwy o waith, rhoddwyd yr offer i lawr ac fe gurwyd cefnau.

Diwrnod cyntaf yng Nghorwen - mynd i'r afael â'r gornel drafferthusRoedd ein hail daith i Gorwen yr un mor gynhyrchiol, oherwydd fe wnaethom wahodd staff NRW a myfyrwyr o Ysgol Sant Christopher, Wrecsam. At ei gilydd, roedd dros 40 o bobl ar y safle ac mae’n wir mai llawer o waith a wna llawer o ddwylo, gan fod y rhan fwyaf o'r safle wedi'i glirio o ffromlys chwarennog yn sydyn iawn.

Unwaith eto cawsom wledd barbiciw blasus a’r hyn a ddylai fod wedi bod yn 'Escalivada' - pryd o Gatalonia. Fe wnaeth pawb fwynhau’r barbiciw! Yr wythnos ganlynol, roedd gennym dîm llai o staff a myfyrwyr Profiad Gwaith, a weithiodd yn galed i gael effaith derfynol ar y ddôl hon. Ynghyd â pheiriannau torri gwrych a chaniatâd gan weithwyr y rheilffordd, roeddem yn gallu dechrau ar y ffromlys chwarennog ar hyd y rheilffordd. Yn ogystal â llif yr afon, gall rhywogaethau ymledol ddefnyddio rheilffordd yn aml felDim ond y trydydd diwrnod o weithredu ac fe gliriwyd y gornel ffordd gyfleus iawn o wasgaru ei hadau. Er nad yw llwybr Corwen yn cael ei ddefnyddio eto, mae mynd i'r afael â’r darn hwn rðan, cyn i drenau ddechrau mynd arno, yn golygu y gallem fod wedi arafu ei daith fymryn.

Daeth y Cubs a'r Scouts o Ruthun draw ar y diwrnod olaf ddechrau Awst, gweithiodd y tîm yn galed i glirio clystyrau trwchus o ffromlys chwarennog cyn trochi yn yr afon – yn wir, mae amrywiaeth gyfoethog o greaduriaid a physgod i’w canfod yma – hyd yn oed mwy o reswm i gael gwared ar y Ffromlys Chwarennog ar y glannau!

Cynhaliwyd digwyddiad bach ychwanegol gan Rhun a thîm wardeiniaid AHNE ddechrau Awst. Fe wnaeth dros 25 o bobl ifanc, yng nghwmni rhieni, fynd i ddyfroedd y Ddyfrdwy, i weld pa greaduriaid a oedd yn byw yn y dyfroedd clir a chroyw. Roeddem wir wedi’n synnu â'r amrywiaeth anhygoel, o'r gelennod i sgorpionau dðr croyw a sawl pysgodyn mân, gan gynnwys llysywennod ifanc!

Trechu ffromlys chwarennog a throchi yn yr afon yng Nghorwen I sychu, fe orffennodd pawb y diwrnod drwy gael gwared ar fformlys chwarennog ar lannau'r afon. Byddwn yn bendant yn gwneud yr un peth y flwyddyn nesaf!  Fe wnaeth pawb fwynhau ac roedd yn gwbl amlwg pa mor bwysig yw system afon Dyfrdwy.

Adroddiad Ychwanegol – Ffromlys Chwarennog.  Rydym wedi’i gasglu, ei dynnu, ei dorri, hyd yn oed wedi’i roi ar y barbiciw, ond fe aeth staff o'r AHNE i ddyfroedd anghyfarwydd yn ddiweddar!

 Mewn ymgais i barhau â gwaith rhagorol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, Y Goresgyniad, cytunodd staff o Langollen Active yn garedig i gynorthwyo i nodi lledaeniad planhigion problemus fel y Ffromlys Chwarennog a Llysiau'r Dial, sy'n tyfu’n llawer rhy rwydd ar lannau’r Ddyfrdwy.

 Dros gyfnod o 2 ddiwrnod ddechrau’r Hydref, fe wnaethom lwyddo i lywio ein ffordd o Landderfel yr holl ffordd i lawr i Langollen mewn dwy rafft bwmpiadwy. Roedd y rhai ar y rafftiau’n cyfnewid tasgau, o badlo i gynllunio ar fapiau o ble’r oedd y planhigion yn tyfu a pha mor ddwys. Bydd y data hwn o bwysigrwydd sylweddol ar gyfer blynyddoedd i ddod, a bydd yn sail i ddull strategol tuag at fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yn eu tarddle i leihau cyfradd eu lledaeniad. Roedd yn dda gweld, er gwaethaf clystyrau mawr o ffromlys chwarennog, bod digon o fywyd gwyllt brodorol i’w weld hefyd. Daethom ar draws sawl pâr o las y dorlan, cannoedd o drochwyr, barcud coch a chrehyrod glas - ond yn ddi-os, yr uchafbwynt oedd gweld dyfrgi ifanc yn bwydo ymysg crafanc y dðr.  Roedd ef / hi mewn cymaint o gynnwrf fel na sylweddolodd arnom wrth i ni fynd heibio’n araf, eiliad go iawn i’w drysori.

 Dywedodd Rhun Jones, Uwch Warden Cefn Gwlad De Sir Ddinbych, ‘Ni cheir fawr o ffyrdd tawelach  i gasglu data gwerthfawr o'r fath. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe gafodd mapio tebyg ei wneud ar droed ac fe gymerodd Swyddogion bythefnos i fapio o Langollen i Gorwen – mae gallu casglu cymaint o ddata mewn cyfnod mor fyr o amser mor fuddiol'.

Mapio rhywogaethau ymledol ar afon dawel Dyfrdwy

Ar wahân i staff o'r AHNE, y Gwasanaeth Cefn Gwlad a Llangollen Outdoors, roedd y criw hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol a gwirfoddolwyr ar raglen wyliau Gwaith Rhyngwladol a gynhaliwyd gan Ynys Môn ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (2 o Gatalonia ac 1 o Wlad yr Iâ).

 Diolch yn fawr i Josh, Grim a Warwick (Llangollen Outdoors) ac i CADAC am ganiatáu mynediad i lawr y Ddyfrdwy i gasglu data.

Mae blwyddyn arall o weithredu gwych, cydweithredol, sy'n cynnwys digonedd o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, yn golygu y byddwn yn gweld llai o blanhigion Ffromlys Chwarennog y flwyddyn nesaf yng Nghorwen na phe tasem heb wneud y gwaith hwn. Mae hwn yn brosiect parhaus, fodd bynnag, a bydd angen ychydig mwy o flynyddoedd mewn llawer mwy o leoedd i fyny ac i lawr y Ddyfrdwy i fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae'n achos teilwng ac mae digon o bobl yn derbyn her Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy bob blwyddyn.

Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf o’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os ydych yn berchennog tir ar hyd y Ddyfrdwy a gyda darn o Ffromlys Chwarennog, y mae modd cael ato ar gyfer digwyddiad cyhoeddus y flwyddyn nesaf, yna cysylltwch â Rhun, ein warden yn Llangollen ar (01978) 869618.

Footer

Gwnaed gan Splinter