Navigation

Content

Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Dyddiad: 17.09.2014

GWAHODDIAD I FYNEGI DIDDORDEB MEWN BOD YN AELOD O’R FFORWM

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn y broses o ailbenodi Fforwm Mynediad Lleol statudol, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r Fforwm yn gyfrifol am gynghori'r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn y sir er mwyn diben hamddena yn yr awyr agored ac i fwynhau'r ardal.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cael eu hystyried i fod yn aelod, neu sy'n dymuno adnewyddu eu haelodaeth yn gallu cael mwy o fanylion drwy ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd a chwblhau y ffurflen gais. Dylid anfon ymholiadau a ffurflenni wedi ei cwblhau i laf@sirddinbych.gov.uk neu drwy gysylltu â Hannah Arndt ar 01352 810614. 

Datganiadau o ddiddordeb i gael eu gwneud erbyn 12 o’r gloch 18 o Dachwedd 2014.

Footer

Gwnaed gan Splinter