Navigation

Content

Adfywio Tirlun Byw

Dyddiad: 05.12.2014

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rhan o brosiect cadwraeth bywyd gwyllt newydd a chyffrous yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  Bydd Prosiect Tirluniau Byw Alun a Chwiler yn gwella cynefinoedd ac o fudd i rywogaethau sy’n byw yn ardaloedd Afon Alun (Alyn) ac Afon Chwiler (Wheeler). Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.  

Pathew - un o'r rhywogaethau a fydd yn elwa o'r prosiectDywed Amy Green, Swyddog Prosiect, wedi’i lleoli gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, “Ein gweledigaeth yw creu tirlun y mae bywyd gwyllt a phobl yn ffynnu ynddo ochr yn ochr mewn amgylchedd glân, iach a chynaliadwy.  Rydym yn dymuno cynnwys ein cymunedau lleol, gan gynnwys unigolion, grwpiau lleol, ysgolion a busnesau i gynorthwyo i rannu gwybodaeth ynglþn â’r ardal a llunio syniadau er mwyn ei wella ar gyfer bywyd gwyllt a phobl ac annog mwy o werthfawrogiad o’r tirlun hyfryd hwn.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Ddðr Cymru a WREN, gyda rhoddion gan aelodau a chefnogwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.   Mae WREN yn fusnes nid er elw sy’n dyrannu grantiau wedi’u cynhyrchu gan drethi tirlenwi drwy safleoedd sy’n eiddo i Amgylchedd CSFf, i brosiectau cymunedol, amgylcheddol a threftadaeth ledled y wlad.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect fel gwirfoddolwr neu os ydych yn berchen ar dir ar lannau Afon Alun neu Chwiler, cysylltwch ag Amy ar amygreen@wildlifetrustswales.org neu 07961698437. Gallwch ddilyn cynnydd y prosiect ar Twitter hefyd @ACLLproject. 

Footer

Gwnaed gan Splinter