Navigation

Content

Digwyddiad Monitro Mamaliaid yn dod i Sir Ddinbych: Lansio MaMoNet

Dyddiad: 22.05.2013

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Na, nid rhywogaeth newydd nad yw gwyddonwyr yn gwybod amdani, ond prosiect newydd, blwyddyn o hyd yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar gasglu data poblogaeth ar ddraenogod a llygod medi!

Dyma ragor o wybodaeth am y prosiect newydd cyffrous gan y Swyddog Prosiect MaMoNet, Becky Clews-Roberts:

“Nod prosiect Mammal Monitoring Network (MaMoNet) Cymru yw annog gwyddoniaeth dinasyddion i helpu casglu rhagor o ddata ar y ddwy rywogaeth hon. Mae’r data sydd ar gael yn awgrymu bod y ddwy’n dirywio, yn wir nododd y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) ostyngiad o 50% yn niferoedd draenogod dros y 25 mlynedd diwethaf. Gyda data cadarn fodd bynnag, gellir llunio strategaeth gadwraeth. Dyma ble mae’r hwyl yn dechrau!”

Olion traed yn yr Inc: Draenogod

Draenog (Derek Crawley)“Er mwyn cael data ar boblogaeth y draenog yng Nghymru, rydym yn gofyn i bobl osod un o dwnneli olion traed Cymdeithas y Mamaliaid ar hyd llwybr llinol fel  gwrych neu wal dros fisoedd yr haf pan fod draenogod yn weithredol. Gall hyn fod yn eu gardd neu’n rhywle arall cyn belled fod y tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd. Mae angen gosod abwyd yn y twnneli ac wrth i’r draenog, neu yn wir unrhyw famaliaid eraill, gerdded drwy’r twnnel i gael yr abwyd, maent yn cerdded dros ychydig o inc ac wedyn caiff eu printiau eu dal ar ddarn o bapur wrth iddynt gerdded allan o’r twnnel. Mae siart ID olion traed wedi’i gynnwys gyda’r offer twnnel i helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i adnabod pa famaliaid sydd wedi bod yn crwydro yn eu gerddi dros nos. Mor syml fel bod unrhyw un, hyd yn oed pobl sy’n newydd i fyd y mamaliaid, yn gallu rhoi cynnig arni hefyd!

“Gellir prynu twneli o wefan Cymdeithas y Mamaliaid drwy’r ddolen Survey Mammals neu fel arall, gall pobl roi cynnig ar greu eu twnnel eu hunain drwy ddilyn yr Assembly Instructions ar y wefan.

“Gellir defnyddio’r twnelau eto ac eto a dim ond abwyd a phapur ffres fydd ei angen bob tro.  Yn y treialon a wnaed gyda’r twnnel, roedd draenogod yn ymateb orau i gðn poeth! 

“Rydym wedyn yn gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan i lwytho eu canfyddiadau i fyny i’r Mammal Society Atlas drwy glicio ar y ddolen Submit Records.”

Twnnel draenogodMae’r Prosiect Atlas Mamaliaid Cenedlaethol (NMAP) wedi bod yn cael ei gynnal ers dros flwyddyn. Nod y prosiect yw pennu dosbarthiad a chyflenwad mamaliaid ar draws Ynysoedd Prydain.  Bydd hyn yn ei dro’n hwyluso cadwraeth mamaliaid priodol. Hyd yn hyn, cyflwynwyd dros 7,500 o gofnodion mamaliaid gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sy’n hawdd i’w llenwi, ond mae angen rhagor o gofnodion o Gymru.

Fodd bynnag, os nad oes gan y rhai sy’n cymryd rhan fynediad i’r we neu os yw’n well ganddynt gael ffurflen i’w hanfon drwy’r post, mae hyn hefyd yn bosibl.  Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw postio’r ffurflenni atom i Gymdeithas y Mamaliaid ac fe wnawn ni lwytho’r data i’r wefan. Gall unrhyw un sy’n dymuno cael ffurflen i’w hanfon drwy’r post gysylltu â Becky – gweler y manylion cyswllt isod.

Os ydych chi’n bwriadu gosod twnnel, rhowch wybod i Becky. Mae hi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglþn â lleoliad y twneli a faint o ymdrech mae pobl yn ei wneud. Anfonwch e-bost ati i roi gwybod beth yw eich cynlluniau! 

Mae’r Hela wedi dechrau...

...am nythod y llygoden fedi hynny yw

Llygoden Fedi (Derek Crawley)Mae’r prosiect MaMoNet hefyd yn bwriadu gwella’r wybodaeth ynglþn â lle y gellir dod o hyd i boblogaethau llygod medi yng Nghymru.

Dywed Becky, “Gan weithio gyda’r prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE)1, rydym yn bwriadu cynnwys cymaint â 1km2 tetrad yng Nghymru wrth i ni chwilio am nythod unwaith y bydd y tymor bridio wedi dod i ben.

“Cynhaliwyd arolwg tebyg yn yr 1970au ac unwaith eto yn yr 1990au felly drwy sicrhau fod y tetradau 1km2 hynny’n cael eu monitro eto, bydd modd i ni gymharu data. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn barod  i gynnwys tetradau newydd nad oes arolygon wedi’u cynnal arnynt o’r blaen. 

“Byddwn yn trefnu rhai sesiynau hyfforddiant yn ddiweddarach yn yr haf ac yna gall gwirfoddolwyr gynnal arolygon ar y tetrad(au) a ddyrannwyd iddynt.  

“Os hoffech chi gael eich cynnwys ar restr ddosbarthu i dderbyn gwybodaeth bellach ar arolygon y llygod medi pan fydd yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau cysylltwch â mi a rhowch wybod i mi.”

Arolygu hapus i chi!

Dyma’r tro cyntaf i Gymdeithas y Mamaliaid gyflogi swyddog yng Nghymru ac maent yn ddiolchgar iawn i Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt) am helpu i ariannu’r prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Becky Clews-Roberts, Swyddog Prosiect, MaMoNet Cymru

r.clews-roberts@themammalsociety.org / 07743 085 374, neu anfonwch e-bost at Dîm Bioamrywiaeth Sir Ddinbych biodiversity@denbighshire.gov.uk.

1Mae’r Prosiect Mamaliaid Mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE) yn bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yng Nghymru; a’r Waterford Institute of Technology, Waterford County Council a’r National Biodiversity Data Centre yn yr Iwerddon.

Nod y prosiect yw monitro rhywogaethau mamaliaid o ddiddordeb cadwraeth, gyda chymorth technegau genetig newydd, a gweithio gyda gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth, a chynnwys y cyhoedd mewn arolwg mamaliaid a gwaith cadwraeth. Ariennir MISE yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Cymru ac Iwerddon (INTERREG 4A).

Footer

Gwnaed gan Splinter