Navigation

Content

Rhoi hwb i fadfall y twyni prin drwy wella eu cynefin

Dyddiad: 14.05.2013

Math: Bioamrywiaeth

Efallai ei fod yn ymddangos braidd yn eithafol ond, yn ôl Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, mynd â cherbyd cloddio ar Dwyni Gronant ym Mhrestatyn oedd y ffordd orau i wella’r cynefin yno. 

Roedd Mick Brummage, cofnodwr ymlusgiaid y sir ac arbenigwr lleol, wrth law rhag ofn i’r gweithwyr ddod ar draws y madfallod.Mae’r twyni’n gartref i fadfall brinnaf Prydain, sef madfall y twyni. Mae ar y madfallod hyn angen llecyn moel o dywod i ddodwy eu hwyau ac i dorheulo er mwyn cael egni o’r haul.    Fodd bynnag, roedd hesg môr wedi tyfu’n wyllt ar y twyni lle’r oedden nhw’n byw ac roedd angen cael gwared arno.   

Ar ddydd Mawrth 7 Mai defnyddiwyd cerbyd cloddio bychan i greu pum llecyn moel o dywod ar y twyni. Dywedodd Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, “Yn y gorffennol, roeddem ni wedi bod yn defnyddio ein nerth bôn braich ond, eleni, roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth mwy radical. Roedd y cerbyd cloddio bychan yn gallu creu digon o lecynnau moel i wneud gwahaniaeth aruthrol i gynefin y madfallod”.

Un o’r llecynnau moel o dywod, a fydd yn hanfodol i sicrhau bod y cynefin yn addas ar gyfer y madfallod prin yn y tymor hir.Ychwanegodd y Cyng. Huw Jones, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, “Mae’r gwelliannau i’r cynefinoedd hyn yn newyddion da. Bydd yn helpu i sicrhau bod madfallod y twyni yn goroesi yn Sir Ddinbych am flynyddoedd i ddod.”

Ailgyflwynwyd madfallod y twyni i Dwyni Gronant ac i Talacre Warren yn Sir y Fflint ar ôl iddyn nhw ddod yn rhywogaeth ddiflanedig ar hyd arfordir gogledd Cymru yn dilyn colli eu cynefinoedd.

Footer

Gwnaed gan Splinter