Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Helpwch i atal yr ymlediad!
Dyddiad: 14.03.2013
Math: Bioamrywiaeth Volunteering
Ar ôl llwyddiant Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy sy’n cael ei gynnal pob blwyddyn i lanhau’r afon, bydd digwyddiad newydd yn cael ei gynnal eleni i fynd i’r afael ag anifeiliaid a phlanhigion anfrodorol. Maen nhw'n cynnwys llysiau’r dial (Japanese Knotweed), ffromlys chwarennog (Himalayan balsam) a chrancod menigog (Chinese mitten crabs) sy’n lledu ar hyd glannau'r afon.
Cynhelir y digwyddiad newydd hwn, sef Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr ymosodiad ar 28 a 29 Mehefin 2013. Hwn fydd y digwyddiad cyntaf erioed i reoli’r tresmaswyr estron hyn yn nalgylch yr afon Dyfrdwy, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri i foryd yr afon.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i bawb yn yr ardal ddod i helpu i ddifa rhywogaethau anfrodorol ymledol o’r afon Dyfrdwy a’i llednentydd ac i gofnodi ardaloedd lle maen nhw’n bodoli. Estroniaid ydy’r rhywogaethau a fydd yn cael sylw; fe gyflwynwyd nhw i’r DU naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol. Gallan nhw achosi problemau mawr i’n bywyd gwyllt brodorol, yn ogystal â chreu problemau eraill fel gwneud i lannau'r afon i fod yn fwy tueddol o erydu neu greu llifogydd.
Mae partneriaeth o fudiadau o Gymru a Lloegr sy’n cynnwys Gwasanaethau Cefn Gwlad awdurdodau lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Environment Agency ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaethau Natur, Sw Caer a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn gysylltiedig â threfnu'r digwyddiad.
Dywedodd Richard Lucas o Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, sydd hefyd yn gysylltiedig â'r digwyddiad:
"Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn un o'r mudiadau sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yn nalgylch Dyfrdwy. Rydym wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr o amryw glybiau pysgota, Cadwch Gymru'n Daclus, a chyrff gwirfoddol eraill, ond dymunwn wahodd mwy o aelodau'r cyhoedd a grwpiau gwirfoddol i chwarae rhan trwy fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn Niwrnod Mawr y Dyfrdwy - Y Goresgyniad trwy ymweld â www.bionetwales.co.uk.”
Os hoffech chi neu grðp ohonoch chi fynd ati i docio’r ffromlys neu lysiau’r dial, neu os hoffech edrych ar y rhywogaethau estron hyn a chofnodi eu lleoliad, yna cadwch y dyddiau hyn yn glir yn eich dyddiadur. Cofiwch edrych am wybodaeth bellach yn y wasg leol yn agosach at fis Mehefin.