Navigation

Content

A hoffech chi gymryd rhan mewn arolwg ymlusgiaid?

Dyddiad: 13.02.2013

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Mae cyfle cyffrous wedi codi i aelodau chwilfrydig o'r cyhoedd gymryd rhan mewn arolwg ymlusgiaid yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Bydd arbenigwr ymlusgiaid lleol, Mick Brummage, yn cynnal arolwg ymlusgiaid. Byddan nhw’n cael eu cynnal yn rheolaidd yn y rhanbarth gan ddechrau ym mis Mawrth 2013.

Neidr ddefaid - un o bum rhywogaeth o ymlusgiaid yn yr ardal. Efallai ei bod yn edrych fel neidr, ond mae'n perthyn yn agosach at fadfallod (Evelyn Simak http://www.geograph.org.uk/photo/1968627)Mae pum rhywogaeth o ymlusgiaid yng Ngogledd-ddwyrain Cymru – madfall (common lizard), madfall y twyni (sand lizard), neidr y gwair (grass snake), gwiber (adder) a neidr ddefaid (slow-worm). Mae'n bwysig deall ble mae'r rhywogaethau hyn i'w gweld, fel bod modd diogelu poblogaethau yn ddigonol.

Ac rydym angen eich help chi! Os bydd llawer o bobl wrthi'n edrych am ymlusgiaid ac yn rhoi gwybod eu bod wedi'u gweld, gallwn ddysgu mwy am y creaduriaid rhyfeddol hyn. Trwy fynd gyda Mick ar ymweliadau arolwg rheolaidd bydd gennych y wybodaeth a'r profiad i gynnal eich arolwg ymlusgiaid eich hunain. Gallwch hefyd fod yn hyderus wrth ganfod ac adnabod nifer o rywogaethau.

Bydd dau arolwg bob mis, ar yr ail Ddydd Mawrth a'r pedwerydd Dydd Sul. Bydd yr arolwg ymlusgiaid yn ddibynnol iawn ar y tywydd felly mae'n bosibl y bydd y dyddiadau a'r amserau yn newid ar fyr rybudd felly mae'n hanfodol anfon e-bost at Mick o flaenllaw os ydych yn bwriadu dod i un o'r ymweliadau. Dyma arolygon y ddau fis cyntaf:

  • Dydd Mawrth 12 Mawrth: Coedwig Llandegla. Chwilio am wiberod newydd.
  • Dydd Sul 24 Mawrth: Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd. Chwilio am wiberod newydd.
  • Dydd Mawrth 9 Ebrill: Parc Gwledig Moel Famau. Chwilio am wiberod sy'n anodd dod o hyd iddynt ac nid oes llawer o gofnodion ar eu cyfer.
  • Dydd Sul 28 Ebrill: Gwarchodfa Natur Dyffryn Rhyd-y-mwyn. Monitro poblogaethau neidr y gwair, neidr ddefaid a madfall.

Yn ôl Swyddog Bioamrywiaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Lizzy Webster, "yn gyffredinol nid yw ymlusgiaid yn cael eu cofnodi'n dda yn y rhanbarth, felly byddai'n dda annog mwy o bobl i gymryd rhan wrth gynnal arolygon ymlusgiaid. Mae'n gyfle gwych i bobl ddysgu'r sgiliau gofynnol gan arbenigwr".

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Mick Brummage, Cofnodwr Ymlusgiaid y Sir: mick.brummage@tiscali.co.uk

Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth: elizabeth.webster@denbighshire.gov.uk / 01824 708263.

Footer

Gwnaed gan Splinter