Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Gweld morlo yn Rhuddlan!
Dyddiad: 16.01.2013
Math: Bioamrywiaeth
Gwelwyd morlo yn Afon Clwyd yn Rhuddlan yn Sir Ddinbych. Roedd yr anifail, un ifanc yn ôl pob tebyg, wedi nofio rhyw ddwy filltir i fyny’r afon o’r aber yn y Rhyl.
Cynghorydd Sir Ddinbych ar gyfer Rhuddlan, y Cynghorydd Ann Davies, a welodd yr anifail pan oedd yn ymweld â’r safle i archwilio pont yr afon ar ôl y llifogydd diweddar. Dywedodd “ar ôl byw yn Rhuddlan am 50 mlynedd, nid oeddwn wedi gweld morlo yn yr afon erioed o’r blaen. Roedd yn chwarae o gwmpas yn yr afon, heb boeni ein bod yno o gwbl. Bron iawn ei fod yn edrych yn falch o’n gweld ni!”
Llwyddodd y Cynghorydd Davies a pheiriannydd pontydd y cyngor, James Hall, i gael fideo o’r morlo.
Creaduriaid morol yw morloi, felly mae’n anghyffredin eu gweld i mewn yn y tir. Maen nhw i’w gweld fel rheol mewn dyfroedd arfordirol lle byddan nhw’n bwydo ar bysgod. Cafwyd nifer o adroddiadau eraill ar ôl y llifogydd o forloi yn mentro i’r mewn i’r tir o rannau eraill o’r wlad yn ystod yr wythnosau diwethaf.