Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Gofalu am Fywyd Gwyllt yn Ystod y Gaeaf Yma
Dyddiad: 20.12.2012
Math: Bioamrywiaeth
Mae gerddi yn hollbwysig ar gyfer llawer o’n bywyd gwyllt yn ystod y gaeaf, a gydol y flwyddyn hefyd. Mae gardd, mewn lle bach, yn debyg i amrywiol gynefinoedd yng nghefn gwlad ehangach ac yn darparu bwyd a lloches i nifer o rywogaethau.
Wrth i’r dyddiau fynd yn fyrrach ac wrth i dymheredd syrthio dros fisoedd y gaeaf, mae’n mynd yn anoddach i lawer o’n bywyd gwyllt oroesi. Mae bwyd yn brinnach ac mae’r tymheredd isel yn golygu ei bod yn cymryd mwy o egni i aros yn gynnes. Mae rhai rhywogaethau yn treulio’r gaeaf yn cysgu er mwyn gwarchod egni, ond mae eraill yn dal i fynd o gwmpas yn y tywydd oer.
Yn ystod y gaeaf, mae llawer o adar yn ymweld â gerddi i chwilio am fwyd. Medrwch eu helpu trwy roddi bwyd egni uchel megis peli braster, hadau a chnau allan. Unwaith y byddwch yn dechrau rhoi bwyd allan, parhewch i wneud hynny os gwelwch yn dda tan y gwanwyn gan y bydd yr adar yn dod i ddibynnu arno. Arhoswch i docio gwrychoedd tan ddiwedd y gaeaf fel bod mwyar ac egroes ar gael i’r adar, a gadewch bennau hadau ar blanhigion. Os ydych yn rhoi dðr allan, medrwch ei rwystro rhag rhewi trwy ddodi pêl ping-pong ar yr wyneb.
Yn ôl Swyddog Bioamrywiaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Lizzy Webster, “Mae rhoi bwyd allan yn denu adar i’ch gardd na fyddwch yn eu gweld ar adegau eraill y flwyddyn, a bydd mwy ohonynt hefyd. Mae’r peneuryn a’r titw cynffon-hir ymhlith fy ffefrynnau i”.
Os ydych eisiau annog bywyd gwyllt i ddefnyddio eich gardd, peidiwch â bod yn rhy daclus! Gall tacluso yn ystod y gaeaf hefyd aflonyddu ar greaduriaid, sy’n golygu bod angen iddynt ddefnyddio egni ychwanegol yn cael hyd i rywle arall i lochesu. Gall tomen goed neu gerrig ddarparu lle i’r llyffant du neu’r madfall gysgu dros y gaeaf.
Am fwy o wybodaeth ynglþn â gofalu am fywyd gwyllt y gaeaf yma, cysylltwch â’n tîm bioamrywiaeth ar bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk neu 01824 708263.