Navigation

Content

Cynffon Sidan yn Heidio i Rhuddlan

Dyddiad: 06.12.2012

Math: Bioamrywiaeth

Mae cynffon sidan yn heidio i Brydain i chwilio am fwyd.  Mae’r adar bychan hyfryd yma’n ymfudo o Sgandinafia lle byddan nhw’n bridio, pan fydd yr aeron y maen nhw’n eu bwyta’n prinhau.  Mae 2012 wedi bod yn flwyddyn anarferol o ran tywydd - ac mae hyn wedi cyfrannu tuag at fethiant ffrwytho yn Sgandinafia gan orfodi’r adar i ddod drosodd i’n glannau ni.  Gellir eu hadnabod oddi wrth eu crib amlwg, pluf browngoch a mwgwd du dros eu llygaid.  Mae’r gynffon â phen melyn ac mae’r adenydd â rhywfaint o batrwm melyn a gwyn.

Cynffon Sidan (Sergey Yeliseev)Mae cynffon sidan wedi bod yn cyrraedd Sir Ddinbych am rai wythnosau, ac nid yw Rhuddlan yn eithriad.  Ar ddydd Gwener, Tachwedd 30 fe gofnodwyd tua 30 yng Ngwarchodfa Natur Leol Pwll Rhuddlan gan Swyddog Gwasanaethau Bioamrywiaeth Sir Ddinbych, Lizzy Webster. “Mae eu gweld mewn cymaint o niferoedd yn ffantastig”, meddai, gan ychwanegu “Dim ond am ychydig flynyddoedd y mae Pwll Rhuddlan wedi ei reoli fel gwarchodfa natur ond mae’n cynnal cymaint o fywyd gwyllt yn barod.”  Mae’r haid fawr o cynffon sidan wedi denu adarwyr a selogion bywyd gwyllt yr ardal i geisio cael cipolwg ar yr olygfa aeaf yma. 

Mae’r ffordd y caiff Gwarchodfa Natur Leol Pwll Rhuddlan ei rheoli’n allweddol i wneud y safle’n ddeniadol i’r cynffon sidan.  Gan eu bod yn bwydo ar aeron, mae presenoldeb coed a llwyni sy’n ffrwytho, fel y ddraenen wen, yn hanfodol.  Caiff y warchodfa ei rheoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar ran y Grðp Gweithredu Rheolaeth.  Mae pob mathau o fywyd gwyllt yn gwneud y warchodfa’n gartref - yn cynnwys amrywiaeth eang o adar, planhigion blodeuol, gwas y neidr a llygoden y dðr.

Lleoedd da eraill i weld yr cynffon sidan ydi meysydd parcio archfarchnadoedd, lle byddan nhw’n bwydo ar aeron planhigion cotoneaster sy’n cael eu plannu’n aml yn rhan o gynlluniau tirlunio.  Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am yr cynffon sidan neu fywyd gwyllt arall yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Lizzy ar 01824 708263 neu elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk.

Footer

Gwnaed gan Splinter