Navigation

Content

Pethau rhyfedd ym Mhen y Pigyn!

Dyddiad: 31.10.2012

Roedd pethau rhyfedd i’w gweld nos Lun yng Nghorwen, ac, yn ffodus, roedd artistiaid lleol Ben Davis a Jude Wood yno i’w cofnodi. .  Roedd ysbrydion, ystlumod enfawr a gwrachod ymysg y bwganod brawychus.   

Monsters at Pen y Pigyn

Fel mae'n digwydd, roedd gan Ben a Jude ran mewn creu'r creaduriaid; nhw oedd yn rhedeg y gweithdy “Lluniau mewn Golau” ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.   Fel yr eglurodd Ros Stockdale, Swyddog yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol “Fe gafon ni Wobr Cysylltu Cymunedol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i gael rhagor o bobl i gymryd rhan yn amgylchedd eu hardal.   Daeth grŵp o 20 o bobl leol o bob oedran i gymryd rhan yn y gweithdy ac, ar ôl ychydig o ymarfer yn y Ganolfan Byw'n Iach, aeth pawb i Ben y Pigyn a chael llawer iawn o hwyl yn creu rhai trigolion newydd ar gyfer Noson Calan Gaeaf."

 Pen y Pigyn spooks

Cafodd y delweddau eu gwneud drwy gymryd ffotograff araf iawn wrth i bawb dynnu siapiau gyda gwahanol dortshis.   Meddai Gail, oedd yn cymryd rhan, “roedd yn eithaf anodd ei wneud, allwch chi ddim gweld y siapiau nes eich bod yn cael golwg ar y llun ar y diwedd, ond rwy'n meddwl ein bod ni wedi cael rhai lluniau da iawn.   Fy ffefryn yw’r un gyda’r gwrachod a’u crochan wrth garreg yr Orsedd, ond roedd y digwyddiad cyfan yn lot fawr o hwyl.   Roedd yn hyfryd bod ar Ben y Pigyn gyda’r nos, ac fe welon ni ystlumod go iawn hefyd!

Witches on the Gorsedd Stone

Water monsters

Halloween

Footer

Gwnaed gan Splinter