Navigation

Content

Cystadleuaeth Ffotograffig Cymuned Corwen

Dyddiad: 05.11.2012

 Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal cystadleuaeth ffotograffig yn ardal Corwen.  Y nod ydi i blant ac oedolion ddod allan yr hydref hwn i gipio delweddau sy’n adlewyrchu cymeriad a harddwch eu hardal leol.  Bob wythnos, yn dechrau ar Hydref 26ain, fe roddir 2 bwnc ar ein gwefannau (www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk a www.denbighshirecountryside.org.uk) ac fe hysbysir ysgolion yn yr ardal.  Ar ddiwedd pob wythnos, fe ddewisir y delweddau gorau ac fe gân nhw eu harddangos ar oriel ar y gwefannau.  Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg am 6 wythnos, ac fe gaiff y ffotograffau gorau eu troi’n gardiau post.

Dywed y Cynghorydd Lleol, Huw Jones, “Rydyn ni’n byw mewn tirwedd syfrdanol, sydd wedi ei chydnabod â’i dynodiad yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Fe fyddai’n ffantastig pe bai pobl yn gallu cipio’r hyn sy’n arbennig iddyn nhw am yr ardal yma a rhannu hynny ag eraill.”

Trefnir y digwyddiad gan dîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac mae’n rhan o brosiect a ariennir gan Wobr Ymgysylltu â’r Gymuned gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, i annog pobl i ymgysylltu mwy â’u hamgylchedd lleol.

 

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd angen i bobl gofrestru â Flickr a lawrlwytho eu ffotograffau ar Gystadleuaeth Ffotograffu Cymuned Corwen, sydd ar http://www.flickr.com/groups/corwen-aonb-photo-comp/ 

 Cystadleuaeth Ffotograffig Cymuned Corwen

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Ros yn swyddfa’r AHNE ar 01978 869615.

Themâu’r wythnos hon yw "Oer" a "Cyffyrddol"

Footer

Gwnaed gan Splinter