Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Adroddwch Ddamweiniau Dyfrgwn ar y Ffyrdd
Dyddiad: 26.10.2012
Math: Bioamrywiaeth
Y dyfrgi ydi un o’r rhywogaethau mwyaf carismatig yng nghefn gwlad Cymru. Mae cael cipolwg ar y mamal celgar yma’n bleser go iawn. Ond yr hyn sy’n drist ydi y byddwch chi’n fwy tebygol o weld un wedi marw ar ffordd nag ar afon.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer y dyfrgwn wedi cynyddu’n ddramatig. Yn awr mae yna ddyfrgwn sy’n bridio ym mron pob dalgylch afon yng Nghymru – yn dychwelyd i lenwi tiriogaethau a fu’n wag am flynyddoedd lawer. Fe ddirywiodd poblogaethau eraill yn hanner olaf yr 20g am nifer o resymau, yn cynnwys dinistrio a diraddio eu cynefin glan afon a gwenwyno gan blaladdwyr amaethyddol.
Ynghyd â’r cynnydd yma yn y dyfrgwn daeth problem arall: cynnydd mewn marwolaethau dyfrgwn mewn damweiniau traffig wrth i ddyfrgwn ymledu a chyfarfod â mwy o ffyrdd. Mae hyn yn broblem arbennig yn y gaeaf pan fydd lefelau afonydd yn uchel a dyfrgwn yn ffafrio cerdded yn hytrach na nofio mewn afonydd sy’n llifo’n gyflym.
Os gwelwch chi ddyfrgi wedi marw ar y ffordd, adroddwch o i Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506506. Gellir cael gwybodaeth werthfawr o leoliad damweiniau dyfrgwn, fel nodi ‘mannau drwg’ lle mae angen gwaith lliniaru. Fe gesglir y celanedd a’u hanfon at Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd lle bydd archwiliadau post mortem yn datgelu swm enfawr o wybodaeth.
Yn ôl Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Os gwelwch chi ddyfrgi wedi marw, mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn ei adrodd i Asiantaeth yr Amgylchedd. Gellir cael gwybodaeth werthfawr o farwolaeth dyfrgi a bydd hynny’n cyfrannu tuag at gadwraeth y rhywogaeth yma o gwmpas Cymru.”
Am mwy o wybodaeth ymweld â www.otterproject.cf.ac.uk.