Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Cyfarfod Pathew y Cyll
Dyddiad: 04.07.2012
Math: Bioamrywiaeth
Efallai eich bod wedi darllen ein herthygl newyddion fis Tachwedd diwethaf ynglţn â’r arolygon pathew rydym wedi eu trefnu yn Sir Ddinbych. Wel, fel rhan o Brosiect y Pathew Gogledd Cymru, sy’n bwydo gwybodaeth i Raglen Genedlaethol Monitro’r Pathew, rydym unwaith eto wedi bod yn ymgymryd ag arolygon ac rydym wrth ein boddau yn medru rhannu’r ffotograffau hyn gyda chi.
Cafwyd hyd i’r pathewod hyn mewn blychau arbennig a osodwyd i gynorthwyo gyda monitro’r anifail bach hwn, sydd fel arfer yn anodd ei weld. Mae pathewod yn naturiol yn nythu mewn tyllau mewn hen goed neu mewn llystyfiant dwys ond, fel adar sy’n nythu mewn tyllau, maent yn fwy na pharod defnyddio blychau nythu artiffisial. Mae hyn yn golygu y medrwn fonitro poblogaethau pathewod trwy gadw llygaid ar gynnwys y blychau hyn. Os oes pathew ynddynt, maent yn cael eu pwyso, nodir eu rhyw, a chymerir sampl o’u blew i’w ddadansoddi.
Gan fod pathew y cyll yn Rhywogaeth sy’n cael ei Warchod gan Ewrop, mae angen trwydded gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (neu gorff cyfatebol mewn ardaloedd eraill yn y DU) i edrych ar flychau nythu a thrin pathewod. Amddiffynnir y pathew gan fod y nifer wedi dirywio oherwydd colli a darnio eu cynefin yn y goedlan, a hefyd newidiadau yn y dulliau o reoli coedlannau.
Mae pathewod fel rheol yn anifeiliaid nosol ac yn treulio bron y cyfan o’u hamser mewn coed. Maent yn ddringwyr da iawn gyda chynffon hir ac ewinedd miniog sy’n berffaith i afael mewn canghennau. Mae eu diet yn amrywio yn ôl y tymor, gan gynnwys blodau yn y gwanwyn, pryfetach yn yr haf a chnau a mwyar yn yr hydref. Maent yn cysgu dros y gaeaf, ar lefel y ddaear.
Arweinir Prosiect Pathew Gogledd Cymru gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar eu gwefan. Am wybodaeth bellach ar Raglen Genedlaethol Monitro’r Pathew, ewch i wefan Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau mewn Perygl.