Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Gweld Dyfrgwn ar Afon Dyfrdwy
Dyddiad: 04.07.2012
Math: Bioamrywiaeth
Roedd aelodau’r cyhoedd a fynychodd digwyddiad Taith Bioamrywiaeth ar y Trên Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar 12 Mehefin yn hynod ffodus o gael gweld dyfrgi yn Afon Dyfrdwy ger Gorsaf Carrog. Fel rhan o’r digwyddiad, roedd Uwch Warden Cefn Gwlad Rhun Jones wedi mynd â rhai o’r grðp ar daith ar hyd glan yr afon, lle’r oeddynt yn ffodus iawn o gael gweld dyfrgi yn nofio o gwmpas yn yr afon.
“Nid oes llawer o ffyrdd gwell o dreulio noson ym mis Mehefin” meddai Rhun. “Roeddem nid yn unig yn lwcus gyda’r tywydd, ond cafodd grðp ohonom y cyfle i wylio dyfrgi yn hela am fwyd am gyfnod o amser, a oedd yn hynod. Nid oedd y dyfrgi yn poeni o gwbl am ein presenoldeb, ac roeddem ym medru ei gwylio am ryw hanner awr. I ddechrau roedd rhyw 150m i lawr yr afon, ond daeth i fyny’r afon a mynd heibio i ni! Rwy’n gwybod ei fod yn amser na fyddaf i, nac unrhyw un arall ar y daith, yn ei anghofio byth.”
Tynnwyd y lluniau gwych hyn o’r dyfrgi gan Sam Hyde Roberts a oedd yn mynychu’r digwyddiad. Meddai, “Roedd mor braf cael gweld y dyfrgi, y cyntaf i mi ei weld ar afon Dyfrdwy. Mae’n anodd tynnu eu lluniau, ac maent wastad mor gyflym ac yn codi yn y lle anghywir!“.
Mae dyfrgwn yn anifeiliaid anodd eu gweld, felly mae’r profiad hwn yn un prin, er gwaethaf y ffaith bod poblogaethau dyfrgwn wedi cynyddu mewn blynyddoedd diweddar. Dyfrgwn yw un o’r rhesymau y mae Afon Dyfrdwy wedi ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r afon a’r cynefin o gwmpas yn cynnwys popeth y mae’r dyfrgi ei angen, gan gynnwys digon o bysgod i’w bwyta a lloches addas ar y tir.
Rhaid diolch yn arbennig i’r tirfeddiannwr lleol, Mr David Blair, a roddodd y cyfle i ni fynd at yr afon ar ei dir, gan nad oeddem ar unrhyw hawl tramwy cyhoeddus.
Am wybodaeth bellach ar ddyfrgwn, ewch i wefan Cymdeithas y Mamaliaid neu cysylltwch â Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych, Lizzy Webster ar 01824 708263 / elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk.