Navigation

Content

Pawb ar fwrdd y Trên Bioamrywiaeth!

Dyddiad: 30.05.2012

Math: Bioamrywiaeth

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Ddinbych yn cynnal Reid Trên Bioamrywiaeth drwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Reilffordd Llangollen ar Fehefin 12  i ddathlu Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 2012.

Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Lizzy Webster: “Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwirioneddol boblogaidd yn y blynyddoedd blaenorol felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weld mwy o bobl yn cyfarfod  â bywyd gwyllt rhyfeddol Dyffryn Dyfrdwy eleni”.

Yn ogystal â reid olygfaol ar y trên, fe fydd yna weithgareddau a chyfleoedd i ddysgu am fywyd gwyllt yn ystod arhosiad yng Ngharrog.

Mae bwcio’n hanfodol felly ffoniwch i fwcio ar 01352 810614 neu e-bost loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk.  Mae tocynnau’n costio £5 y teulu neu’r unigolyn ac mae plant dan 16 am ddim ond mae’n rhaid iddyn nhw gael eu goruchwylio!  Cyfarfod yng Ngorsaf Reilffordd Llangollen am 6.30pm, yn gorffen am 10pm.  Mae’r digwyddiad yn addas i oedolion a theuluoedd.

Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru’n ddigwyddiad blynyddol ar draws y sir i hyrwyddo bywyd gwyllt ac annog pobl o bob oed i brofi natur yn uniongyrchol.  Ewch i www.cefngwladsirddinbych.org.uk.

Footer

Gwnaed gan Splinter