Navigation

Content

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru

Dyddiad: 22.05.2012

Math: Bioamrywiaeth

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 9 - 17 Mehefin

Mae wythnos bioamrywiaeth Cymru, rhwng y 9fed a’r 17eg o Fehefin, yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau ar thema bywyd gwyllt sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. Cynlluniwyd y digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth, tanio brwdfrydedd ac ysbrydoli’r cyhoedd am bwysigrwydd bioamrywiaeth. Mae gennym fywyd gwyllt bendigedig yma yn Sir Ddinbych, o’r fadfall i’r môr-wennol, ag y dyfrgi i’r dylluan.

I ddathlu, rydym yn cynnal pob math o wahanol ddigwyddiadau teuluol. Ewch yn wyllt ym Mhlas Newydd ar y 9fed, o 11:30yb tan 3:30yp. Peidiwch â methu’r Daith Trên bioamrywiaeth ar yr 12fed, yn gadael gorsaf trên Llangollen am 6:30yp ac yn cyrraedd yn ôl am 10yp. Ar y 17eg, darganfodwch grug a chaerau Moel Arthur, yn gadael o faes parcio Moel Arthur am 10:30yb am gylchdaith 4 milltir, neu'r un diwrnod, adeiladwch nythod adar, cartrefi chwilod a thai llyffantod ym Mharc Gwledig Loggerheads o 11yb tan 3yp! Dewch i ddathlu bywyd gwyllt bendigedig Cymru!

Am fwy o wybodaeth gysylltwch â Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych ar 01824708263, neu Elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk.

Making Bird boxes at Loggerheads

Footer

Gwnaed gan Splinter