Navigation

Content

Diogelu adar sy'n nythu: peidiwch â thorri'r gyfraith!

Dyddiad: 29.03.2012

Math: Bioamrywiaeth

Mae’r tymor nythu ar fin dechrau, pan fydd adar yn brysur yn adeiladu eu nythod, yn deori eu hwyau ac yn bwydo’u cywion. Mae camddealltwriaeth cyffredin yn ymwneud â’r gyfraith ac adar sy’n nythu. Mae’n werth sicrhau’ch bod yn deall y gyfraith, gan mai uchafswm y gosb ei gellir ei phennu am drosedd yn ymwneud ag aderyn, yw dirwy o £5,000, a/neu gyfnod o 6 mis yn y carchar. Felly, os oes chwe wy mewn nyth, gallai hynny fod yn ddirwy o £35,000.

Nid oes rheolau caeth ynghylch y tymor nythu, yr adar sy’n nythu sy’n cael eu diogelu – dylech ddefnyddio dyddiadau’r tymor fel arweiniad o ran pryd rydych yn fwy tebygol o ddod ar draws adar yn nythu. Yn ystod y tymor nythu, rhaid cymryd gofal cyn ymgymryd ag unrhyw waith i sicrhau nad oes adar yn nythu. 

Cywion aderyn du yn y nythYn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o adar yn nythu rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, ond mae hyn yn dibynnu ar leoliad y nyth, y tywydd a’r rhywogaeth. Mae colomennod, er enghraifft, yn nythu drwy’r flwyddyn, ac mae’r robin goch wedi’i weld yn nythu ym mis Rhagfyr. Mae rhai rhywogaethau hefyd yn magu mwy nag un nythaid, a all ymestyn tan fis Awst neu fis Medi. Eleni, mae wedi bod yn anarferol o gynnes ac mae rhai eisoes wedi gweld cywion bach!

Mae llawer o adar yn nythu’n agos at bobl; mae amrywiaeth o adar nythu yn ein gerddi; fel y robin goch, y ‘deryn du a’r titw tomos las, a bydd adar eraill fel aderyn y to a’r wennol yn nythu ar, neu wrth ymyl adeiladau. Mae llawer o’r adar rydym yn ystyried eu bod yn gyffredin iawn wedi bod yn dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae’n bwysig ein bod yn ystyried sut y mae’r hyn rydym ni’n ei wneud yn effeithio ar adar, a’n bod yn deall y gyfraith o ran diogelu adar sy’n nythu.

Mae’r gyfraith yn diogelu pob aderyn, eu nythod a’u hwyau, felly mae’n drosedd (gyda rhai eithriadau) i: 

  • Iadd, niweidio neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol
  • cymryd, yn niweidio neu’n dinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol tra bo’n cael ei defnyddio neu ei hadeiladu
  • cymryd neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol

Byddai’n weithred fwriadol, er enghraifft, pe baech yn gwybod bod nyth yn y gwrych yn cael ei defnyddio, ac yn niweidio’r nyth wrth dorri’r gwrych. Ystyrir bod nyth wrthi’n cael ei hadeiladu pan fydd aderyn wedi gosod un darn o ddeunydd nythu.

Mae rhai adar mwy prin yn cael eu diogelu ymhellach ac mae’r rheini wedi’u rhestru yn y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwallt. Yn eu plith mae adar fel y dylluan wen, glas y dorlan, barcut, yr hebog a’r frân goesgoch.

Yn achos yr adar hyn, mae’n drosedd:

  • aflonyddu ar unrhyw aderyn gwyllt a restrir yn Atodlen 1 yn fwriadol neu’n ddifeddwl tra bo’n adeiladu nyth, neu os oes wyau neu gywion yn y nyth, nac aflonyddu cywion yr adar hyn.

Mae rhannau eraill o’r gyfraith yn ymdrin â chymryd wyau, defnyddio trapiau a throseddau o dan Ddeddf Diogelu Adar. Os hoffech ragor o wybodaeth am gyfraith adar ewch i http://www.rspb.org.uk/ourwork/policy/wildbirdslaw/birdsandlaw/wca/index.aspx.

Beth fedrwch chi ei wneud? 
Torrwch eich gwrychoedd y tu allan i’r tymor nythu, sef rhwng mis Hydref a mis Mawrth. 

Os nad yw hyn yn bosibl oherwydd bod angen gwneud y gwaith ar frys, gofalwch fod arolwg adar wedi’i gynnal cyn dechrau ar unrhyw waith. Os oes adar yn nythu yn y gwrych, rhaid i chi ohirio’r gwaith nes bydd yr aderyn ac unrhyw gywion wedi gadael y nyth. O dan amgylchiadau eithriadol, mae modd cael trwydded gan Lywodraeth Cymru i symud y nyth.

Os ydych am dorri gwrychoedd ar raddfa eang, yna byddai’n well torri gwrychoedd yn ddiweddarach yn ystod y gaeaf er mwyn gadael aeron a hadau i’r adar eu bwyta dros fisoedd caled y gaeaf. Neu, torrwch rannau i’r gwrych am yn ail fel bod ffrwythau neu hadau i’w cael ar rannau o’r gwrych. 

Os ydych yn bwriadu clirio llystyfiant oddi ar ddarn o dir, archwiliwch y safle cyn dechrau ar y gwaith rhag ofn bod adar yn nythu yno. 

Os ydych yn amau bod rhywun wedi troseddu yn erbyn aderyn gwyllt, ffoniwch eich heddlu lleol drwy ffonio 101.

Neu, gallwch lenwi ffurflen gan yr RSPB sydd ar gael ar-lein.

Footer

Gwnaed gan Splinter