Navigation

Content

Perllannau Traddodiadol yng Nghymru: Galw am Wirfoddolwyr

Dyddiad: 19.03.2012

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Cynhaliwyd Gweithdy Rheoli Perllannau Roeddynt unwaith yn gyffredin yng nghefn gwlad Prydain, ond mae perllannau nawr wedi mynd yn brin ac wedi eu rhestru fel cynefin flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth. Ers diwedd y llynedd, mae Prosiect Adennill Perllannau Gogledd-ddwyrain Cymru wedi bod yn gweithio i blannu ac adfer perllannau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn Sir Ddinbych, mae perllannau newydd wedi eu plannu ar bump o’n Safleoedd Cefn Gwlad. Cynhaliwyd Gweithdy Rheoli Perllannau ar 10 Mawrth i addysgu perchnogion perllannau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn y technegau sydd eu hangen i reoli perllan yn llwyddiannus.

Nawr mae Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau mewn Perygl (PTES) yn recriwtio gwirfoddolwyr yn Sir Ddinbych i gymryd rhan mewn arolwg o’r perllannau traddodiadol sydd ar ôl yng Nghymru.

Mae ymchwilwyr PTES yn edrych trwy ffotograffau o’r awyr o dair miliwn a hanner o hectarau ledled Cymru; hyd yma maent wedi lleoli 2500 o safleoedd lle mae perllan draddodiadol bosibl, ac mae 601 o’r rhain yn Sir Ddinbych. Mae’r elusen nawr eisiau i wirfoddolwyr ddilysu eu darganfyddiadau trwy chwilio am nodweddion perllannau traddodiadol, ynghyd â chofnodi rhywogaeth, oedran a chyflwr unrhyw goed ffrwythau y maent yn eu darganfod. Fedrwch chi helpu?

Yn nodweddiadol, mae perllannau traddodiadol yn cynnwys dwysedd isel o goed mewn glaswelltir. Cânt eu tyfu gan ddefnyddio dulliau dwysedd isel heb blaleiddiad neu chwynladdwr, ac maent yn aml yn cael eu pori. Gellir gweld perllannau modern, dwys mewn ffotograffau o’r awyr yn ôl eu patrymau plannu, gan fod y coed yn tueddu i gael eu plannu mewn rhesi culion gyda llinellau chwynladdwr amlwg. Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth leol a grym y bobl, a gwirfoddolwyr i helpu dilysu’r darganfyddiadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu i gael gwyodaeth bellach, cysylltwch â Lauren Alexander, Swyddog Cyswllt Perllannau, ar 020 7498 4533 neu ebost lauren.alexander@ptes.org. Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar wefan PTES www.ptes.org/orchards.

Footer

Gwnaed gan Splinter