Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Peidiwch â gadael eitemau gwerthfawr yn eich ceir rhybuddia’r tîm cefn gwlad
Dyddiad: 07.03.2012
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn galw ar ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads i ofalu eu bod yn mynd â’u heiddo personol efo nhw pan fyddan nhw’n mynd i gerdded ym Mharc Gwledig Loggerheads neu o’i amgylch.
Yn y misoedd diwethaf cafwyd nifer o ddigwyddiadau o dorri i mewn i geir sydd wedi eu gadael ac mae eitemau fel bagiau llaw, camera a gliniadur wedi eu dwyn.
Dywedodd Vanessa Warrington o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Bydd llawer o ymwelwyr yn teithio i Loggerheads gan ei fod yn lle hardd i gerdded, i siopa ac i fwynhau Caffi Florence. Dydyn ni ddim am ddigalonni ymwelwyr ond yn hytrach rydyn ni am i ymweliad pobl â’n parc gwledig fod yn un positif.
"Y cwbl rydyn ni’n ei ofyn ydi i bobl leihau’r risg o dorri i mewn i’w ceir drwy beidio â gadael eitemau gwerthfawr yn eu ceir. Hefyd dylech fod ar eich gwyliadwriaeth. Os gwelwch chi rywun amheus rhowch wybod i ni yng Nghanolfan Bryniau Clwyd neu’r Swyddfa. Rydyn ni’n gweithio efo’r heddlu, wedi cynyddu gwyliadwriaeth, wedi rhoi posteri i fyny ac rydyn ni’n siarad ag ymwelwyr am leihau’r risg.”