Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Castell Dinas Brân
Dyddiad: 07.03.2012
Math: Volunteering
Eleni bydd staff o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n taclo’r broblem gynyddol o wersylla a sbwriel ar y “Grempogen” ar Gastell Dinas Brân. Yn y blynyddoedd diweddar, mae nifer y partïon dros nos a gynhelir yma wedi cynyddu’n ddramatig, ac mae’r sbwriel a adewir yn hawlio mwy a mwy o adnoddau gan dîm yr AHNE, gweithwyr y Cyngor a phreswylwyr lleol.
Dywed Rhun Jones, Swyddog Cefn Gwlad y De: “Castell Dinas Brân yw’r safle cefn gwlad sy’n cael ei ddefnyddio orau yn Llangollen. Bydd yn cael dros 30,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, llawer ohonyn nhw o dramor, ac yn aml un o’r pethau cyntaf y byddan nhw’n ei weld wrth iddyn nhw ddod i’r safle ydi môr o duniau a photeli, llawer ohonyn nhw wedi eu malurio. Mae yna farciau llosgi ar y gwair yn dilyn tanau gwersyll ac fe fyddwn ni’n ffeindio dillad a phebyll wedi eu gadael yno hefyd. Mae’r ardal yma’n cael ei defnyddio’n helaeth gan bobl â phlant a chŵn, felly mae yna risg go iawn o anaf.”
Mewn ymateb i’r broblem, bydd tîm yr AHNE yn gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, Tîm Gorfodi’r Cyngor, Cyngor Tref Llangollen, Cadw Cymru’n Daclus a Thîm Trefi Taclus Llangollen.
Esboniodd Swyddog Rhawd Cymunedol Llangollen, PC James Lang, “Mae hon yn broblem o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac felly, fe fyddwn yn ymateb i adroddiadau am bartïon ar y Grempogen a symud pobl oddi ar y safle. Os gwêl rhywun weithgaredd gwrthgymdeithasol, byddem yn eu hannog i gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 101 ac fe wnawn ein gorau i ddod yno.”
Dywed Gareth Jones, o Gadw Cymru’n Daclus: “Gwyddom fod llawer o bobl leol â meddwl mawr o’r safle a bydd llawer yn casglu sbwriel oddi yno gydol y flwyddyn, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu help. Mae Cadw Cymru’n Daclus yn cynnal cynllun “Pencampwr Sbwriel”, lle byddwn yn darparu offer ac yswiriant ar gyfer yr unigolion hynny sy’n dymuno helpu yn y ffordd yma. Os oes rhywun â diddordeb, cysylltwch â mi ar 07824 504796.”
Dywedodd cynrychiolydd Llangollen: “Mae’n siomedig iawn gweld ardal mor ddeniadol yn yr hyn sy’n awr o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn cael ei fandaleiddio fel hyn ac rydyn ni’n ddiolchgar i staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ac asiantaethau eraill am eu hymdrechion yn glanhau’r ardal, yn ogystal ag unigolion lleol sy’n helpu o bryd i’w gilydd. Byddem yn annog unrhyw un sy’n gweld ymddygiad anghyfrifol fel hyn i’w adrodd i’r Heddlu ar unwaith.'
Dywed Rhun Jones: “Mae hyn yn ddull partneriaeth o ddelio â’r broblem, ac fe hoffem annog pobl leol i ymgysylltu. Os hoffech helpu, gallwch alw yn y swyddfa y tu ôl i’r Ganolfan Groeso bob amser, neu ffonio 01978 869618 - a chofiwch, os gwelwch chi broblem ar y Castell, cysylltwch â Thîm Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, neu rhowch wybod i’r Heddlu ar 101.