Navigation

Content

Gwirfoddolwyr i helpu llyffantod lleol i groesi ffordd brysur

Dyddiad: 27.02.2012

Math: Bioamrywiaeth Volunteering

Mae llyffantod lleol i’w helpu i groesi ffordd brysur rhwng Bwlchgwyn a Llandegla’n rhan o ymgyrch genedlaethol i helpu’r llyffant du.

Mae gwirfoddolwyr yn paratoi i ymweld â’r safle yn yr wythnosau nesaf ac fe fyddan nhw’n helpu i gario’r llyffantod dros y ffordd brysur a’u helpu wrth iddyn nhw symud tuag at eu pyllau bridio’n dilyn y sbel ddiweddar o dywydd mwynach y gwanwyn.

“Mae’r A525 rhwng Bwlchgwyn a Llandegla’n ffordd gyflym iawn, felly 'does gan y llyffantod fawr o siawns,” meddai Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, sy’n helpu i gydlynu’r patrol.  “Rydyn ni’n awyddus i fwy o bobl wirfoddoli, ac rydyn ni am glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn helpu’r llyffantod yn yr wythnosau nesaf.”

Credir fod y llyffant du - amffibiad carismatig efo croen dafadennog  ac osgo siglog - yn profi dirywiad yn y Deyrnas Unedig, a hynny, mewn rhai achosion, oherwydd effaith traffig ffyrdd gan fod llyffantod yn teithio’n araf yn ôl i’r un pwll bridio a ddefnyddir yn aml am genedlaethau.

Mae’r gwirfoddolwyr lleol yma’n rhan o ymgyrch genedlaethol ‘Llyffantod ar y Ffordd’, a gydlynir gan elusen genedlaethol bywyd gwyllt ‘Froglife’, gyda chymorth ARG UK, rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau gwirfoddol sy’n ymwneud â chadwraeth amffibiaid ac ymlusgiaid.  Yn yr wythnosau nesaf, bydd mil o wirfoddolwyr yn paratoi i helpu llyffantod ar draws ffyrdd y DU, mewn ymdrech gydlynol i helpu i arbed yr anifail swynol yma rhag dirywio ymhellach.

Mae yna Batrolau Llyffantod eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae eu manylion i’w cael ar wefan Froglife (www.froglife.org) - i gael mwy o fanylion: info@froglife.org neu ffoniwch 01733 558844.
Llyffantod

Llyffantod (Dave Williams Photography)

Footer

Gwnaed gan Splinter